top of page

Archif Celf a Dylunio

Art & Design Archive

Dosbarthiadau Meistr Celf Ysgolion Sir Ddinbych: llun o fywyd ansymudol,

ond nid fel rydym wedi arfer gydag ef

Ym mis Hydref 2018, roedd disgyblion Ysgol y Castell, Ysgol Bro Dyfrdwy ac Ysgol Glan Clwyd wrth eu bodd wrth groesawu'r artist Cymreig enwog, Keith Bowen, i'w hysgolion, ar gyfer dosbarth meistr celf llawn. Dyma oedd y wobr am ennill Cystadleuaeth Celf Ysgolion Sir Ddinbych Syr Kyffin Williams 2018 - cystadleuaeth gelf fawreddog Sir Ddinbych ar gyfer disgyblion mewn ysgolion - wedi'i drefnu i goffáu 100 mlynedd ers geni Syr Kyffin Williams ym 1918.

Roedd hwn yn gyfle unigryw i fyfyrwyr cynradd ac uwchradd Sir Ddinbych ddatblygu agwedd gadarnhaol tuag at luniadu, trwy gael profiadau un wrth un gydag artist proffesiynol, lle gallent arsylwi, cael cyfle i ofyn cwestiynnau a rhyngweithio.

 

Arweiniodd Keith y rhai oedd yn cymeryd rhan yn fedrus drwy'r broses artistig i greu eu lluniau bywyd ansymudol eu hunain trwy adeiladu gosodiad unigryw yn yr ystafell ddosbarth o wrthrychau personol e.e. ‘driftwood’, caniau dŵr, bwcedi, brwsys, cynwysyddion, ffrwythau a llysiau tymhorol, blodau, dillad, esgidiau, rhubanau a ffabrig.

 

Ar ddechrau pob dosbarth meistr, dangosodd Keith dechnegau arlunio, cyn rhannu peth o'i waith. Yn fuan, datblygodd yr artistiaid ifanc ddealltwriaeth o'r hyn sy'n hanfodol mewn golygfa o bethau ansymudol trwy gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau gwerthfawrogi celf fel y gallent edrych, ymateb a chymharu enghreifftiau o waith bywyd ansymudol.

 

Edrychodd y disgyblion ar y sgiliau sy'n gysylltiedig â darlunio arsylwi (llinellau a marciau, siâp a ffurf, tôn a gwead a phersbectif a chyfansoddiad) ac fe'u hanogwyd i arbrofi gydag ystod o gyfryngau (siarcol, pensiliau, pasteli a phastelau olew).

 

Datblygasant sgiliau darlunio trwy edrych am a chanfod syniadau trwy dasgau ffocws byr.

 

Yn olaf, creodd y myfyrwyr galeri o’u darnau celf.

 

Roedd brwdfrydedd a angerdd ddiddiwedd Keith Bowen ar gyfer celf yn sicrhau fod y myfyrwyr wedi cael diwrnod ysbrydoledig i gofio.

Denbighshire Schools’ Art Masterclasses: still life, but not as we know it

In October 2018, pupils at Ysgol y Castell, Ysgol Bro Dyfrdwy and Ysgol Glan Clwyd were delighted to welcome renowned Welsh artist, Keith Bowen, to their schools, for a full day art masterclass. This was their prize for winning the Sir Kyffin Williams Denbighshire Schools’ Art Competition 2018 – Denbighshire’s prestigious art competition for pupils in schools - organised to commemorate the 100th anniversary since the birth of Sir Kyffin Williams in 1918.

 

This was a unique opportunity for Denbighshire primary and secondary students to develop a positive attitude towards drawing, by having first hand experiences with a professional artist, where they could observe, question and interact.

 

Keith skillfully guided participants through the artistic process to create their own still life by constructing a unique installation in the classroom from personal objects e.g. driftwood, watering cans, buckets, brushes, containers, seasonal fruits and vegetables, flowers, garments, footwear, ribbons and fabric.

At the start of each masterclass, Keith demonstrated drawing techniques and shared some of his work. The young artists soon developed an understanding of what still life is by partaking in a variety of art appreciation activities, so that they could look, respond and compare examples of still life work.

 

Pupils explored the skills associated with observational drawing (lines and marks, shape and form, tone and texture and perspective and composition) and were encouraged to experiment with a range of media (charcoal, pencils, pastels and oil pastels).

 

They developed drawing skills through exploring and drawing ideas through short focused tasks.

 

Finally, the students created their own still life piece of art work gallery.

 

Keith Bowen’s endless enthusiasm and passion for art guaranteed the students a truly inspirational day to remember. 

Cystadleuaeth Arlunio Syr Kyffin Williams Ysgolion Sir Ddinbych 2018

The Sir Kyffin Williams Denbighshire Schools Competition 2018

Ieuenctid dawnus yn cael eu hanrydeddu am ymdrechion artistig

Talented youngsters honoured for artistic efforts

Mae dros dri chant o blant a phobl ifanc o ysgolion cynradd ac uwchradd awdurdod lleol ar draws Sir Ddinbych wedi cymryd rhan yng Nghystadleuaeth Arlunio Syr Kyffin Williams Ysgolion Sir Ddinbych 2018, cystadleuaeth arlunio newydd sbon, sydd eleni yn coffáu 100 mlynedd ers iddo gael ei eni.

 

Roedd Syr John "Kyffin" Williams, KBE RA RCA (1918-2006), yn bentiwr tirwedd Cymreig a oedd yn byw ym Mhwllfanogl, Llanfairpwll, ar Ynys Môn.  Fe'i hystyrir yn eang fel “peintiwr mwyaf adnabyddus Cymru ac un o artistiaid diffiniol yr 20fed ganrif”.

 

Nod y gystadleuaeth, a gynhelir yn flynyddol, yw annog unrhyw un sy'n 18 oed neu'n iau, sy'n mynychu ysgol awdurdod lleol o fewn Sir Ddinbych, i fod yn greadigol a mynegi eu hunain yn greadigol, a chroesewir celf ar draws yr holl gyfryngau, gan gynnwys darlunio, tecstilau, cerflunwaith, peintio, gwneud printiau, cyfryngau cymysg, ffotograffiaeth a chyfryngau digidol.

 

Rhoddwyd canmoliaeth uchel gan yr arlunydd Cymreig, Keith Bowen,  beirniad y gystadleuaeth ar gyfer 2018, am ansawdd a chreadigrwydd y 300+ o ddarnau o waith a gafwyd eleni.

 

Daeth Lucy Roberts o Ysgol Bro Dyfrdwy yn gyntaf yn y categori 5-7 am ei sgiliau lluniadu trawiadol, tra bod Dosbarth 4, Grŵp Garddwyr, Ysgol y Castell wedi ennill y brif wobr yn y categori 7-11 ar gyfer eu cerfluniau adar a chawsant eu canmol am eu medr arsylwi eithriadol. Enillodd  Hanna Jones o Ysgol Glan Clwyd y wobr gyntaf yn y categori 11-18 am ei thirwedd anhygoel o Tuscany.

 

Derbyniodd enillwyr eleni wobr ariannol tuag at brynu deunyddiau celf ar gyfer eu hysgol, dosbarth meistr celf gyda Keith Bowen ei hun yn Nhymor yr Hydref 2018 ac, fel braint cyffrous  ychwanegol, gwahoddiad i arddangos eu gwaith buddugol fel rhan o ‘Angerdd i Gymru’ - Yn Cofio Celf Kyffin Williams PPRCA yn Academi Frenhinol y Cambrian, Conwy, o 10 Mai - 30 Mehefin 2018.

 

Bydd arddangosfa o 79 o ddarnau o waith gan blant a phobl ifanc Sir Ddinbych  a gyflwynwyd ac a ddewiswyd hefyd yn cael eu harddangos ym Mhencadlys Cyngor Sir Ddinbych, Ffordd Wynnstay, Rhuthun, o 10 Mai tan 1 Mehefin 2018, cyn trosglwyddo i Academi Frenhinol y Cambria, Conwy, fel rhan o'i 136ain Arddangosfa Haf Blynyddol o 7 Gorffennaf tan 8 Medi 2018.

 

Gall ymwelwyr i arddangosfa Rhuthun bleidleisio dros eu hoff, gyda'r darn o'r safon uchaf yn ennill ‘Gwobr Dewis y Bobl’.

Over three hundred children and young people from local authority Primary and Secondary schools across the county of Denbighshire have taken part in The Sir Kyffin Williams Denbighshire Schools Art Competition 2018, a brand-new art competition, this year commemorating the 100th anniversary since his birth. 

 

Sir John “Kyffin” Williams, KBE RA RCA (1918-2006), was a Welsh landscape painter who lived at Pwllfanogl, Llanfairpwll, on the Island of Anglesey.  He is widely regarded as “Wales’ best known painter and one of the defining artists of the 20th century”. 

 

The competition, which will be held annually, aims to encourage anyone aged 18 or under, attending a local authority school in Denbighshire, to get creative and express themselves creatively, and welcomes art across all mediums, including drawing, textiles, sculpture, painting, printmaking, mixed media, photography and digital media.

 

Welsh artist and 2018 competition judge, Keith Bowen, had high praise for the quality and creativity of the 300+ submissions this year.

 

Lucy Roberts from Ysgol Bro Dyfrdwy came first in the 5-7 category for her remarkable portrait drawing skills, while Class 4, Gardeners’ Group from Ysgol y Castell earned the top prize in the 7-11 category for their birds sculpture and were praised for their exceptional observational skills.  Hanna Jones from Ysgol Glan Clwyd was awarded first prize in the 11-18 category for her amazing Tuscany landscape.

 

This year’s winners received a cash prize towards the purchase of art materials for their school, an art masterclass with Keith Bowen himself in the Autumn Term 2018 and, as an additional thrill, an invitation to exhibit their prize-winning entries as part of ‘A Passion for Wales’ - Kyffin Williams PPRCA Centenary Celebration at the Royal Cambrian Academy, Conwy, from 10 May – 30 June 2018.  

 

An exhibition of 79 selected submissions from Denbighshire children and young people will also feature at Denbighshire County Council Headquarters, Wynnstay Road, Ruthin, from 10 May until 1 June 2018, before transferring to the Royal Cambrian Academy, Conwy, as part of its 136th Annual Summer Exhibition from 7 July until 8 September 2018.

Visitors to the Ruthin exhibition are able to vote for their favourite, with the top-rated piece winning the ‘People’s Choice Award’.

Arddangoswyr 2018 Exhibitors

10 Mai - 1 Mehefin 2018 | 10 May - 1 June 2018

Pencadlys Cyngor Sir Ddinbych, Ffordd Wynnstay, Rhuthun, LL15 1YN

Denbighshire County Council HQ, Wynnstay Road, Ruthin, LL15 1YN

Oedran | Age 5-7

  1. Izzy Whitby, Ysgol y Llys

  2. Rhys Williams, Ysgol Caer Drewyn

  3. Evelyn Farrell, Ysgol y Llys

  4. Ethan Hamner, Ysgol Caer Drewyn

  5. Elise Morris, Ysgol y Llys

  6. Kitty Roberts, Ysgol Bodfari

  7. Seren Parsonage, Ysgol y Llys

  8. Harley Thomas, Ysgol Caer Drewyn

  9. Ella Bolton, Ysgol y Llys

  10. Rio Davies, Ysgol Caer Drewyn

  11. Mikael Feimi, Ysgol y Llys

  12. Harvey Jones, Ysgol Caer Drewyn

  13. Ffion Allen, Ysgol y Llys

  14. Alfie Smith, Ysgol Bodfari

  15. Poppy Roberts, Ysgol y Llys

  16. Nathan Allis, Ysgol Henllan

  17. Cameron Davies, Ysgol Bodfari

18.   Erin Williams, Ysgol y Llys

19.   India Wringe, Ysgol y Llys

20.   Scott Jones, Ysgol Henllan

21.   Betsan ap Gwynfor, Ysgol Bro Dyfrdwy

22.   Celyn Roberts, Ysgol Henllan

23.   Teegan Jones, Ysgol y Llys

24.   Malee Mayers, Ysgol Bodfari

25.   Cara Bell, Ysgol y Llys

26.   Macsen Mason-Jones, Ysgol y Llys

27.   Tianna Cornforth, Ysgol Bro Dyfrdwy

28.   Tomi Mason-Jones, Ysgol y Llys

29.   Cari Durkin, Ysgol Henllan

30.   Natalie Jones, Ysgol y Llys

31.   Evie Stockle, Ysgol y Llys

32.   Grŵp Tomi, Ysgol Bro Dyfrdwy

33.   Dainton Derbyshire Style, Ysgol Bro Dyfrdwy

34.   Greta Jones, Ysgol Bro Dyfrdwy

Oedran | Age 7-11

35.   Grŵp Eco, Ysgol Caer Drewyn

36.   Poppy Emmons, Ysgol Bodfari

37.   Lili Enfys McCabe, Ysgol y Llys

38.   Aled Jones, Ysgol Carreg Emlyn

39.   Brooke Southwick, Ysgol Bodfari

40.   Phoebe Eggington, Ysgol Caer Drewyn

41.   Awen Roche, Ysgol Bodfari

42.   Freya Williams, Ysgol Caer Drewyn

43.   Sienna Stubbs, Ysgol Henllan

44.   Chloe Galeandro, Ysgol Bodfari

45.   Anes Parry, Ysgol Bro Cinmeirch

46.   Emma Jane Williams, Ysgol Emmanuel

47.   Alfie Plumb, Ysgol Bro Cinmeirch

48.   Lucas Davies, Ysgol Bodfari

49.   Olek Brzost, Ysgol Caer Drewyn

50.   Emily Jackson, Ysgol Bodfari

51.   Megan Jinkinson, Ysgol Carreg Emlyn

52.   Dylan Roberts, Ysgol Bodfari

53.   Ava Williams, Ysgol Henllan

54.   Leah Galeandro, Ysgol Bodfari

55.   Annabel Williams, Ysgol Bodfari

56.   Lucy Adams, Ysgol Henllan

57.   Ela Williams, Ysgol Carreg Emlyn

58.   Hugo Loh, Ysgol Emmanuel

59.   Freddie Luhde-Fergusson, Ysgol Bodfari

60.   Noah Unsworth, Ysgol Bodfari

61.   Phoebe Griffiths, Ysgol y Llys

62.   Evie Paulus, Ysgol y Llys

63.   Leah Mae Williams, Ysgol y Llys

64.   Seren Hughes, Ysgol Henllan

65.   Alyssa Evans, Ysgol y Llys

66.   Phoebe Jackson, Ysgol Bodfari

Oedran | Age 11-18

67.    Rhiannon Williams, Ysgol Uwchradd Y Rhyl | Rhyl High School

68.    Catrin Burgess, Ysgol Glan Clwyd

69.    Phoebe Newell, Ysgol Uwchradd Y Rhyl | Rhyl High School

70.    Hannah Bolger, Ysgol Glan Clwyd

71.    Erin Davies, Ysgol Glan Clwyd

72.    Aaron Griffin, Ysgol Uwchradd Y Rhyl | Rhyl High School

73.    Catrin Rees Williams, Ysgol Glan Clwyd

74.    Ella White, Ysgol Glan Clwyd

75.    Georgia MacDonald, Ysgol Uwchradd Y Rhyl | Rhyl High School

76.    Julia Bugelli, Ysgol Glan Clwyd

77.    Emily Smith, Ysgol Glan Clwyd

78.    Lucy Winter, Ysgol Glan Clwyd

79.    Hayley Daffern, Ysgol Glan Clwyd

*Bydd enillydd cyffredinol y categori hwn yn cael ei arddangos fel rhan o

ANGERDD I GYMRU - A PASSION FOR WALES

Yn Cofio Celf Kyffin Williams PPRCA Centenary Celebration

Yn Academi Frenhinol y Cambrian, Conwy (Oriel Isaf)

rhwng 10 a 30 Mai 2018.

 

Bydd yr holl waith celf yn cael ei arddangos fel rhan o 136eg Arddangosfa Haf Blynyddol Academi Frenhinol y Cambrian, Conwy (drwy’r holl Orielau), 7 Gorffennaf - 8 Medi 2018.

*The overall winner of this category will be exhibited as part of

ANGERDD I GYMRU - A PASSION FOR WALES

Yn Cofio Celf Kyffin Williams PPRCA Centenary Celebration

at The Royal Cambrian Academy, Conwy (Lower Gallery)

from 10th -30th May 2018 2018

 

All artwork will be on display as part of The Royal Cambrian Academy, Conwy’s 136th Annual Summer Exhibition

(All Galleries), 7th July – 8th September 2018.

EDAU

Rhwydwaith Celfyddydau ac Addysg, Gogledd Cymru

The Arts and Education Network, North Wales

Darlunydd Ifanc Sir Ddinbych 2016

Denbighshire Young Illustrator 2016

 

A'r Enillwyr Yw...

And The Winners Are...

Rhestr lawn o enillwyr y gwobrau...

Full list of prize-winners…

Gweithdy Hyfforddiant i Athrawon gan Frantic Assembly

 Frantic Assembly Teacher Training Workshop

Blas ar Grefft - DPP ar gyfer Athrawon Ysgolion Cynradd - Testun: Celf a Dylunio

Taste of Craft - CPD for Primary Teachers - Subject: Art and Design

Darlunydd Euraidd Sir Ddinbych 2016

Denbighshire Golden Illustrator 2016

Gwthio ffiniau arlunio - DPP ar gyfer Athrawon Ysgiolion Uwchradd - Testun: Celf a Dylunio

Pushing the boundaries of drawing - CPD for Secondary Teachers - Subject: Art and Design

Ruthin Craft Centre: Portfolio and Raising the Bar Opportunities 2016/17

creative learning through the arts - an action plan for Wales 2015-2020

Ryan Hall aka Dougy74 Design – Inspired by the Force…

Rwy'n barod ar gyfer fy Close-up!

Gweithdy gwneud ffilmiau yn Ysgol Bryn Collen, Llangollen, gyda Huw Davies,

Artist, Cerflunydd, Cynhyrchydd a Gwneuthurwr Ffilmiau

Mae Madison Byars, disgybl Blwyddyn 2 yn Ysgol Bryn Collen, wedi cael ei henwi fel Gwneuthurydd Ffilmiau Ifanc y Flwyddyn yn Sir Ddinbych 2015 fel rhan o ŵylgyfoeth sir ddinbych – Cael Eich Ysbrydoli!... Fel rhan o'i gwobr, cafodd Madison a'i ffrindiau o’r ysgol y boddhad o gael cymeryd rhan mewn gweithdy yn ddiweddar ar wneud ffilmiau dros tri diwrnod yn Ysgol Bryn Collen gyda Huw Davies, gwneuthurwr ffilmiau gyda’r BBC.  Fel bonws ychwanegol, cafodd y gwneuthurwyr ffilmiau ifanc eu gwahodd i wneud ffilm hyrwyddo fer am Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.

 

‘Does prin o weithgareddau o fewn y sector diwydiannau creadigol nad yw Huw Davies wedi profi, o fod yn gynhyrchydd y BBC i fod yn ffotograffydd, cerflunydd, gwneuthurwr ffilmiau a hyd yn oed digrifwr ‘stand-up’!  Mae ei daith daith broffesiynol wedi mynd ag ef o gwmpas y byd, gan enill iddo wobrau di-ri gan adael iddo lawer o hanesion i'w hadrodd.  Mae Huw yn awr wrth y llyw gyda Ffilmiau Cymunedol Davies- cwmni sy'n arbenigo mewn-ffilm fer, fformat naratif person cyntaf, gwneud ffilmiau mewn ysgolion, neuaddau cymunedol, clybiau ieuenctid, clybiau cymdeithasol a hyd yn oed i fyny mynyddoedd!

 

Roedd y gweithdy gwneud ffilmiau yn Ysgol Bryn Collen, yn cynnwys saith o egin-wneuthurwyr ffilmiau ifanc, gan eu hysbrydoli gydag arddull ymarferol , offer o'r safon uchaf, hyfforddiant o’r safon uchaf roedd yn canolbwyntio ar roi grym i'r cyfranogwyr i gynhyrchu eu gwaith eu hunain.  Wrth iddynt ymwneud â'r prosiect, cawsant ddysgu am gyfryngau a sgiliau TG gwerthfawr.  Cafodd y plant hefyd ddysgu am syniadau creadigol a datblygu sgiliau ‘meddal’ fel gwaith tîm.  Cafodd y gweithdy ei strwythuro i greu amgylchedd gwaith cefnogol er mwyn galluogi'r cyfranogwyr i gyrraedd eu potensial llawn.

Dros y tridiau, cafodd y gwneuthurwyr ffilmiau ifanc ddysgu sut i wneud eu ffilmiau byr eu hunain, fel unigolion ac fel criw bach, gan ddefnyddio offer a phrosesau proffesiynol. Cawsant eu trwytho ym mhob agwedd o’r gelfyddyd a chrefft o gynhyrchu ffilm a fideo o’r cychwyn gan ymchwilio, ysgrifennu, cynhyrchu, cyfarwyddo a golygu eu prosiect ffilm ar  Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.  Treuliasant  amser yn dysgu'r ‘iaith sinematig’ o ddylunio’r ongl gorau i ffilmio , cyfansoddiad, lleoliad camera a symud, wrth fwynhau harddwch digyffelyb o Langollen.  Ar ddiwedd y tri diwrnod, roedd y disgyblion wedi datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth weithredol o’r rôl mae’r camera yn ei chwarae yn y broses o wneud ffilmiau.

 

Fe alluogodd y gweithdy ffilmiau i ddisgyblion Ysgol Bryn Collen  gymryd eu creadigrwydd, mwynhad a sgiliau i'r lefel nesaf.  Pwy a ŵyr, gallem fod yn edrych ar y brif cyfarwyddwr ffilm benywaidd nesaf i gymryd lle Kathryn Bigelow, Catherine Hardwicke ac Sofia Coppola!

I’m Ready for my Close-up!

Ysgol Bryn Collen’s film-making workshop with Huw Davies,

Artist, Sculptor, Producer and Film Maker

Madison Byars, a Year 2 pupil at Ysgol Bryn Collen, has been named as Denbighshire’s Young Film Maker 2015 as part of denbighshire enrichfest.2015 – Get Inspired!....  As part of her prize, Madison and her schoolmates were thrilled recently to host a three day film-making workshop at Ysgol Bryn Collen with Huw Davies, award winning BBC film-maker.  As an added bonus, the young film-makers were invited to make a short promotional film about Llangollen International Musical Eisteddfod. 

 

 

There are few activities within the creative industries sector that Huw Davies has not experienced, from being a BBC producer to photographer, sculptor, film-maker and even stand-up comedian!  His professional journey has taken him around the world, won him countless awards and left him with many tales to tell.  Huw is now at the helm of Ffilm Cymunedol Davies Community Films which specialises in short-film, first-person narrative format, having made films in schools, community halls, youth clubs, social clubs and even up mountains!

 

 

Ysgol Bryn Collen’s film-making workshop, involving seven young budding film-makers, was inspiring, with its hands-on style, top quality equipment, award-winning tuition and focus on empowering the participants to produce their own work.  As they engaged with the project, they learnt valuable media and IT skills.  They also realised creative ideas and developed soft skills such as team work.  The workshop was structured to create a supportive working environment to enable the participants to reach their full potential.

Over the three days, the film-makers were taught how to make their own short films, both as individuals and as a small crew, using professional tools and processes.  They were immersed in all aspects of the art and craft of film and video production and conceived, researched, wrote, produced, directed and edited their film project, based on Llangollen International Musical Eisteddfod.  They spent time learning the cinematic language of shot design, composition, camera placement and movement, while enjoying the unparalleled beauty of Llangollen.  At the end of the three days, the pupils had developed a working knowledge and understanding of the role the camera plays in the filmmaking process. 

This engaging filmmaking workshop enabled Ysgol Bryn Collen pupils to take their creativity, enjoyment and skills to the next level.  Who knows, we could be looking at the next top female film director to replace Kathryn Bigelow, Catherine Hardwicke and Sofia Coppola!

CYNGOR CELFYDDYDAU PLANT A PHOBL IFANC SIR DDINBYCH (CCPPhISDd)

On Friday 20 March 2015, Denbighshire Education Services launched a Children and Young People’s Arts Council, a new and exciting initiative, and is proud to be the first county in Wales where children and young people will have their own arts and culture forum, whereby they can debate and influence arts policy in education in schools, not only in Denbighshire, but also in Wales.

 

Fourteen Secondary school students attended the Inaugural Meeting of Denbighshire Children and Young People’s Arts Council (DCYPAC), which was held at County Hall, Ruthin, on Friday 20 March 2015, 09:30 am – 12.00 pm.  The keynote speaker was be Ken Skates AM, Deputy Minister for Culture, Sport and Tourism, who was invited to outline his ambitious vision to make Wales the most active and creative nation in Europe.  Discussions also focused on how Wales will engage with the arts, following the launch of Creative Learning through the Arts – an Action Plan for Wales on 3 March 2015 by Welsh Ministers in the Senedd, Cardiff Bay.

 

Denbighshire Children and Young People’s Arts Council (DCYPAC) is one of several new initiatives emanating from Denbighshire Education Services’ Enrichment programme (established in September 2014), which is developing arts and culture in Denbighshire schools through a series of activities, inspired by and produced for children and young people in the county.  Its aim is to explore and provide new high-quality arts and cultural opportunities across the full spectrum of the Education curriculum, addi ng value to children and young people’s learning and classroom experiences.  This creative learning initiative enriches their lives and acts as an invaluable extension to the classroom, pro-actively encouraging and supporting children and young people to realise their potential.

 

Denbighshire Children and Young People’s Arts Council will be a key driver in informing Denbighshire Education Services to firmly embed arts in education in schools, echoing current advice from Welsh Government and the Arts Council of Wales.  This pilot initiative is a ‘blue-print’, which, it is hoped, will lead to similar forums being set up elsewhere in Wales.  

DENBIGHSHIRE CHILDREN AND YOUNG PEOPLE’S ARTS COUNCIL (DCYPAC)

Mae Gwasanaethau Addysg Sir Ddinbych yn lansio Cyngor Celfyddydau Plant a Pobl Ifanc, menter newydd a chyffrous ac mae’n falch o fod y sir gyntaf yng Nghymru lle bydd plant a phobl ifanc yn cael eu fforwm celfyddydau a diwylliant eu hunain, lle gallant drafod a dylanwadu ar bolisi’r celfyddydau mewn addysg yn yr ysgolion, nid yn unig yn Sir Ddinbych, ond hefyd yng Nghymru.  

 

Daeth pedwar ar ddeg o fyfyrwyr ysgol uwchradd i gyfarfod cyntaf Cyngor Celfyddydau Plant a Phobl Ifanc Sir Ddinbych (CCPPhISDd), sy’n cael ei gynnal yn Neuadd y Sir, Rhuthun ddydd Gwener 20 Mawrth 2015 rhwng 9.30am a 12.00 canol dydd.   Y prif siaradwr oedd Ken Skates AC, y Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, gafodd ei wahodd i amlinellu ei weledigaeth uchelgeisiol i wneud Cymru'r genedl fwyaf gweithgar a chreadigol yn Ewrop.  Canolbwyntiodd y trafodaethau hefyd ar sut y bydd Cymru yn ymwneud â'r celfyddydau, yn dilyn lansio Dysgu Creadigol drwy'r Celfyddydau - Cynllun Gweithredu i Gymru ar 3 Mawrth, 2015 gan Weinidogion Cymru yn y Senedd, Bae Caerdydd.

 

Mae Cyngor Celfyddydau Plant a Phobl Ifanc Sir Ddinbych (CCPPhISDd) yn un o nifer o fentrau newydd yn deillio o raglen Cyfoethogi Gwasanaethau Addysg Sir Ddinbych (a sefydlwyd ym mis Medi 2014), sy'n datblygu celfyddydau a diwylliant yn ysgolion Sir Ddinbych drwy gyfres o weithgareddau, a ysbrydolwyd gan a chynhyrchwyd ar gyfer plant a phobl ifanc yn y sir.  Ei nod yw archwilio a darparu cyfleoedd celfyddydol a diwylliannol newydd o ansawdd uchel ar draws sbectrwm llawn y cwricwlwm Addysg, gan ychwanegu gwerth i brofiadau dysgu plant a phobl ifanc a phrofiadau yn yr ystafell ddosbarth.  Mae'r fenter dysgu creadigol yn cyfoethogi eu bywydau ac yn gweithredu fel estyniad amhrisiadwy i'r ystafell ddosbarth, yn annog a chefnogi plant a phobl ifanc yn rhagweithiol i wireddu eu potensial.

 

Bydd Cyngor Celfyddydau Plant a Phobl Ifanc Sir Ddinbych yn ysgogwr allweddol o ran llywio Gwasanaethau Addysg Sir Ddinbych i ymgorffori celf mewn addysg mewn ysgolion yn gadarn, gan adleisio cyngor cyfredol gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru.  Mae'r fenter beilot hon yn gynllun penodedig, a fydd, gobeithio, yn arwain at fforymau tebyg yn cael eu sefydlu mewn mannau eraill yng Nghymru.  

GWEITHDY GRAFFITI - YSGOL UWCHARDD Y RHYL - 03/12/2014

GRAFFITI WORKSHOP - RHYL HIGH SCHOOL - 03/12/2014

bottom of page