top of page

Archif Cerddoriaeth

Music Archive

Gadewch i'r Brwydr ddechrau! ... / Let the Battle commence!...

 

Dyddiad cau | Closing Date: 27/10/2017

Brydwr y Bandiau

Ysgolion Sir Ddinbych 2016

Denbighshire Schools

Battle of the Bands 2016

ONLY BOYS ALOUD.

Ymarfer yn cychwyn, Dydd Llun 20 Ebrill 2015 ar gyfer Ardal Rhyl

Dydd Llun 6.30-8.30 yh

Theatr y Pafiliwn Rhyl

ONLY BOYS ALOUD.

Rehearsals start on Monday 20 April 2015 for the Rhyl Area

Mondays 6.30-8.30 pm

Rhyl Pavilion Theatre

Manics:

Band anhysbys

mwyaf enwog y byd

Gan Carwyn Jones Newyddion BBC Wales

Manics:

The world's most

famous unknown band

By Carwyn Jones

BBC Wales News

Cymerodd y rhaglen ddogfen 12 mlynedd i'w chreu.

 

“Rydym wedi cael 14 o senglau yn y deg uchaf, 31 o senglau yn olynol yn y 40 uchaf, wedi gwerthu miliynau o albymau – ac nid yw pobl yn gwybod pwy ydym ni o hyd.”

 

Nid oes modd dweud a yw’r drymiwr Sean Moore yn falch neu mewn penbleth gan gyn lleied y mae’r cyhoedd fel pe baent yn ei wybod am y Manic Street Preachers - y band sydd wedi bod yn perfformio am y rhan fwyaf o dri degawd.

 

Mae ei sylwadau yn dechrau rhaglen ddogfen nodwedd newydd am y grŵp, sy'n gobeithio unioni'r fantol.

 

Cymerodd ddeuddeg mlynedd i’w chreu, ac mae “No Manifesto” yn bortread cynhwysfawr, difyr a dadlennol iawn o’r band o Gymru.

 

Rydym yn eu gweld adref, yn y stiwdio recordio ac ar daith.

The documentary was 12 years in the making.

 

"We've had 14 top ten hits, 31 consecutive top 40 hits, sold millions of albums - and people still don't know who we are."

 

 

You can't quite tell if drummer Sean Moore is pleased or perplexed by how little the general public seem to know about Manic Street Preachers - the band he's been performing with for the best part of three decades.

 

 

His comments kick-start a new, feature length documentary about the group, which hopes to redress the balance.

 

Twelve years in the making, “No Manifesto” is an exhaustive, entertaining and highly revealing portrait of the Welsh band.

 

We see them at home, in the recording studio and on tour.

Diflannodd Richey Edwards 20 mlynedd yn ôl ar 1 Chwefror.

 

Ar hyd y ffordd, mae Moore yn egluro ei angerdd dros saethu targed, mae’r gitarydd a’r prif leisydd James Dean Bradfield yn datgan ei hoffter o hambyrgyrs Wimpy, ac mae Nicky Wire yn falch iawn wrth ddangos ei sied yn ei ardd.

 

Roedd y ffilm yn llafur cariad i’r cyfarwyddwr Americanaidd a chefnogwr y Manics, Elizabeth Marcus.

 

Roedd hi eisoes wedi gweithio ar y rhaglenni dogfen o fri “Bowling for Columbine” a “Fahrenheit 9/11”, a gwnaeth ei rhinweddau sinematig ei helpu i gael mynediad digynsail i'r band.

 

Pan gefais sgwrs â hi yng Nghaerdydd, lle mae’r ffilm yn cael ei dangosiad cyntaf i’r byd, mae hi'n cyfaddef i’r broses o ddogfennu'r grŵp dros gyfnod mor hir arwain at rywfaint o densiwn.

 

“Roedd yn bendant adegau pan oedd pethau’n teimlo’n annifyr.  Roeddem yn eu ffilmio nhw tra roedden nhw’n ceisio gwneud eu gwaith.

 

“Roedden nhw'n ceisio recordio albwm (“Send Away The Tigers”) ac ymarfer ar gyfer taith ac roedd adegau lle bu ychydig o wrthdaro.

Richey Edwards disappeared 20 years ago on 1 February

 

Along the way, Moore explains his love of target shooting, guitarist and lead singer James Dean Bradfield declares his passion for Wimpy hamburgers, and a very proud Nicky Wire shows off his garden shed.

 

 

The film was a labour of love for American director and self-confessed Manics fan Elizabeth Marcus.

 

She had already worked on the acclaimed documentaries “Bowling for Columbine” and “Fahrenheit 9/11”, and her cinematic credentials helped her gain unprecedented access to the band.

 

When I caught up with her in Cardiff, where the film is receiving its world premiere, she admitted the process of documenting the group over such a long period of time did lead to some tension.

 

"There were definitely moments when it felt awkward.  We were filming them while they were trying to do their job.

 

"They were trying to record an album (“Send Away The Tigers”) and rehearse for a tour and there were times that made for a little bit of conflict.

“Ond yn gyffredinol, roedden nhw’n gydweithredol iawn ac yn cymryd ymagwedd ymarferol iawn i'r ffilmio.  Wnes i erioed deimlo eu bod yn annaturiol, nid oeddent yn ffug.  Ac roeddwn i’n meddwl bod hynny’n eithaf cŵl oherwydd mae hynny’n rhywbeth y mae'r cefnogwyr yn ei werthfawrogi.”

 

Yn wir, mae’r cefnogwyr yn mwynhau bron cymaint o amser ar y sgrin yn y ffilm â’r Manics eu hunain.  Gwnaeth Marcus gyfweld bron i 100 ohonynt, ar draws y byd, ac mae eu cyfraniadau yn disodli’r amrywiaeth arferol o bennau’n parablu y byddech yn disgwyl eu gweld mewn rhaglen ddogfen fel hon.

 

Rydych yn sylwi nad oes pynditiaid, newyddiadurwyr ac arbenigwyr cerddoriaeth i’w gweld yn “No Manifesto”.  Nid yw hynny’n dweud bod y cefnogwyr yn unffurf yn eu barn am y band.  Mae cwynion am nwyddau swyddogol y Manics a’r defnydd o regfeydd yng ngeiriau eu caneuon, tra bod hoffter Nicky Wire o golur llygaid melyn yn cael beirniadaeth benodol.

 

Ond ar yr un pryd maent yn cydnabod bod y band wedi llwyddo i aros gyda'i gilydd, a pharhau i wneud cerddoriaeth, drwy amseroedd trasig a chythryblus.

 

Fel y dywedodd un ffan: “Po fwyaf rydych chi'n cael gwybod am y Manics, y mwyaf dynol y maent yn ymddangos”.

 

A daeth y drasiedi honno yn gynnar yn eu gyrfa.  Ar 1 Chwefror 1995, diflannodd y gitarydd Richey Edwards.  Ni chafwyd fyth hyd iddo.

 

Mae ymdeimlad pendant o golled yn rhedeg trwy'r ffilm, sy'n cael ei rhyddhau bron i 20 mlynedd i'r diwrnod ers i Edwards gael ei weld yn fyw ddiwethaf.

 

Mewn un dilyniant, mae Nicky Wire yn mynd drwy flwch cof yn y cartref, sy’n cynnwys llythyrau a chardiau post a anfonodd ei ffrind ato pan oeddent yn eu harddegau.

 

“Byddwn yn ysgrifennu at ein gilydd drwy'r amser,” meddai. “Pethau ifanc, ingol, pethau da”.

 

Mae’n araf yn agor cerdyn sydd yn syml yn dweud: "Happy birthday to the nicest mind destroyer".

 

Er eu bod yn awr yn fand o dri, mae Richey Edwards yn dal i daflu cysgod hir dros y Manic Street Preachers, fel y dywedodd DJ Radio 1, Huw Stevens, wrthyf cyn i’r ffilm gael ei rhyddhau.

 

“Mae'r Manics yn fand y mae llawer wedi digwydd iddyn nhw ac maen nhw’n dod i delerau â phethau yn eu ffordd eu hunain,” meddai.  “Os gwrandewch chi ar eu cerddoriaeth nawr, byddwch yn gweld bod Richey yn dal i fod yn rhan o'r band, er nad yw gyda nhw yn gorfforol”.  “Mae bob amser yn y geiriau, y gwaith celf a'r cysyniad o’r Manic Street Preachers”.  “Ac er eu bod nhw wedi creu albymau gwych ers iddo ddiflannu, mae'r albymau a wnaethon nhw gyda Richey yn rhan enfawr o hanes y Manics”.

 

Mae “No Manifesto” yn llawn o eiliadau teimladwy, ond mae hiwmor a chynhesrwydd yma hefyd.  Mae darnau enfawr o’r ffilm yn canolbwyntio ar broses greadigol y band, sy'n arwain at gyfnewid gwych rhwng James a Sean: “Rhaid i chi fod mwy fel Billy Bragg na Lonnie Donegan”.

 

Yn nes ymlaen, mae James yn hapus i chwalu mythau cyfansoddi caneuon.  “Dydw i ddim yn eistedd wrth ddesg fach yn St Petersburg gyda photel o Absinthe”, meddai.  “Rydw i'n eistedd yn fy ystafell fyw gyda phot o goffi”.

 

Ond Nicky Wire, wrth drafod magwraeth y band yn Ne Cymru, sy'n darparu llinellau gorau’r ffilm o bosibl: “Mae'n rhoi ffibr moesol go iawn i ni.  Cariad at ddiwylliant uchel a diwylliant hynod o isel.  Rwy'n llawer mwy cyfforddus wrth fwyta byrger nag wrth fynd i fwyty crand.  Ac mae hynny oherwydd fy mod i’n Gymro”.

 

Yn eu dyddiau cynnar, cyhoeddodd y Manic Street Preachers eu bod am wneud un albwm, gwerthu 16 miliwn o gopïau ohono, ac yna gwahanu.

 

Bron i 30 mlynedd yn ddiweddarach, maent yn dal i wneud cerddoriaeth, yn dal i werthu recordiau, ac yn dal i fwynhau clod.

 

Mae “No Manifesto” yn cofnodi uchafbwyntiau ac isafbwyntiau band sydd yn awr yng nghanol eu 40au, ond sy'n parhau i fod mor lliwgar a dadleuol ag erioed.

"But in general, they were very co-operative and took a very hands-off approach to the filming”.  "I never felt that they were putting on any kind of act, they weren't phony”.  "And I thought that was pretty cool because that's something that the fans appreciate."

 

In fact, those fans enjoy almost as much screen time in the film as the Manics themselves.  Marcus interviewed nearly 100 of them, all over the world, and their contributions replace the usual array of talking heads you would expect to see in a documentary like this.

 

 

Pundits, journalists and music experts are noticeably absent from No Manifesto.  That's not to say the fans are uniform in their opinions of the band.  There are complaints about the Manics' official merchandise and the use of swear words in their lyrics, while Nicky Wire's penchant for yellow eye shadow comes in for particular criticism.

 

But in the same breath they acknowledge that the band has managed to stay together, and keep making music, through tragic and turbulent times.

 

 

As one fan puts it: "The more you find out about the Manics, the more human they become".

 

And that tragedy came early on in their career.  On 1 February 1995, guitarist Richey Edwards disappeared.  He's never been found.

 

There's a tangible sense of loss running through the film, which is released almost 20 years to the day since Edwards was last seen alive.

 

 

In one sequence, Nicky Wire goes through a memory box at home, containing letters and postcards his friend sent him when they were teenagers.

 

"We'd write to each other all the time," he recalls.  "Young, angsty, good stuff".

 

He slowly opens a card which simply reads: "Happy birthday to the nicest mind destroyer".

 

Although they are now a three piece band, Richey Edwards still casts a long shadow over Manic Street Preachers, as Radio One DJ Huw Stevens told me ahead of the film's release.

 

"The Manics are a band that have had a lot happen to them and they come to terms with things in their own way," he said.  "If you listen to their music now, you'll see that Richey is still part of the band, even though he's not with them physically”.  "He is always in the lyrics, the artwork and the concept of Manic Street Preachers”.  "And although they've created some fantastic albums since he disappeared, the albums they did with Richey are a huge part of the Manics' history".

 

“No Manifesto” is full of poignant moments, but there's humour and warmth here too.  Huge chunks of the film focus on the band's creative process, which leads to a great exchange between James and Sean: "You've got to make it more Billy Bragg than Lonnie Donegan".

 

Later on, James happily debunks the myths of song writing.  “I'm not sitting at a little desk in St Petersburg with a bottle of absinthe", he offers.  "I'm sitting in my living room with a pot of coffee".

 

But it's Nicky Wire, discussing the band's upbringing in South Wales, who delivers arguably the best lines in the film: "It gave us a real moral fibre.  "A love of high culture and extremely low culture.  I'm much more comfortable eating a burger than I am going to a posh restaurant.  And that's because I'm Welsh".

 

In their early days, Manic Street Preachers famously announced that they were going to make one album, sell 16 million copies of it, then split up.

 

Nearly 30 years on, they're still making music, still selling records, still enjoying acclaim.

 

“No Manifesto” charts the highs and lows of a band who are now in their mid-40s, but who remain as colourful and contentious as ever.

DENBIGHSHIRE YOUTH CHOIR WINS THE DAILY POST AND S4C’S ‘CAROLS FROM LLANDUDNO’ SCHOOL CHOIR COMPETITION

CÔR IEUENCTID SIR DDINBYCH YN ENNILL CYSTADLEUAETH CORAU YSGOLION ‘CAROLAU O LLANDUDNO’ Y DAILY POST AC S4C

Mae Côr Ieuenctid Sir Ddinbych wedi ennill Cystadleuaeth Corau Ysgolion ‘Carolau o Llandudno’ y Daily Post ac S4C,.

Ar ôl gyrru CD i mewn, mae'r Côr wedi cael ei ddewis, gyda dau gôr arall, i ganu yn achlysur Carolau o Landudno 2014 yn Venue Cymru ddydd Sul 21 Rhagfyr 2014. Bydd y cyngerdd eleni yn cynnwys rhestr wych o dalent Cymreig a llawer o garolau traddodiadol. Bydd y cyngerdd yn cael ei ffilmio gan S4C a ddangosir fel rhan o’u hamserlen Nadolig.

Cafodd Côr Ieuenctid Sir Ddinbych ei sefydlu yn 2009 ac mae wedi'i leoli yn y Rhyl. Mae ganddo dros chwe deg o aelodau o blith o leiaf ddeg ysgol o bob rhan o Sir Ddinbych.  Oedran y disgyblion yw 9-15 oed.

Mae'r côr yn gôr ddwyieithog, gyda disgyblion o Ysgol Dewi Sant, Ysgol Twm o'r Nant, Ysgol Tremeirchion, Ysgol y Llys, Ysgol Glan Clwyd, Ysgol Uwchradd Prestatyn, Ysgol Uwchradd Y Rhyl, y Bendigaid Edward Jones, Ysgol Uwchradd Dinbych ac Ysgol Christchurch.

Mae'r côr wedi cael ychydig o flynyddoedd cyffrous ac maent wedi cael rhai cyfleoedd gwych, gan gynnwys perfformio yn y Gŵyl Genedlaethol Cerdd i Ieuenctid yn Neuadd ‘Festival’ Birmingham ac yna fe’i wahoddwyd i ganu yn y Prom Ysgolion yn y Royal Albert Hall. Maent hefyd wedi perfformio mewn corws opera gymunedol, 'Noye’s Fludde' gan Britten yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.

Ariannir Côr Ieuenctid Sir Ddinbych gan Gyngor Sir Ddinbych ac fe’i arweinir  gan Eleri Watkins gydag Alex Wynne Jones fel cyfeilydd.

Denbighshire Youth Choir has won the Daily Post and S4C’s Carols from Llandudno School Choir Competition.

After sending in a CD entry, the Choir has been selected, with two other choirs, to sing at the Carols from Llandudno 2014 event at Venue Cymru on Sunday 21 December 2014.  This year’s concert will feature a wonderful line-up of fantastic Welsh talent and lots of traditional carols.  The concert will be filmed by S4C and shown as part of their Christmas schedule.

Denbighshire Youth Choir was established in 2009 and is based in Rhyl.  It has over sixty members drawn from at least ten schools from all over the county of Denbighshire.  The pupils are aged from 9-15.

The choir is a bilingual choir, with pupils from Ysgol Dewi Sant, Ysgol Twm o’r Nant, Ysgol Tremerichion, Ysgol y Llys, Ysgol Glan Clwyd, Prestatyn High School, Rhyl High School, Blessed Edward Jones, Denbigh High School and Ysgol Christchurch.

The choir has had an exciting few years and they have had some wonderful opportunities, including performing at the Music for Youth National Festival at Birmingham Festival Hall and then were invited to sing at the Schools Prom at the Royal Albert Hall.  They have also performed in the chorus of a community opera, Britten"s 'Noye's Fludde' at the Llangollen International Eisteddfod.

Denbighshire Youth Choir is funded by Denbighshire County Council and is conducted by Eleri Watkins and accompanied by Alex Wynne Jones.

Cerddorfa enfawr yn gwasgu i fewn Neuadd Prichard-Jones ym Mhrifysgol Bangor

http://www.dailypost.co.uk/whats-on/music-nightlife-news/giant-orchestra-squeezes-prichard-jones-hall-8031228

Gwasgodd cerddorfa enfawr o fwy na 150 o gerddorion i fewn i Neuadd Prichard-Jones ym Mhrifysgol Bangor fel cyfran o weithdy ar raddfa eang a arweinir gan cherddorion o Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.

 

Mynychwyd y gweithdy ‘ochr-yn-ochr’ fore dydd Gwener, 31 Hydref 2014, gan fwy na 80 o ddisgyblion ifanc o Gwasanaeth Ysgolion William Mathias, gan gynnwys disgyblion o Ysgol Llanfair DC Sir Ddinbych, Ysgol Glan Clwyd, Ysgol Uwchradd Prestatyn, Ysgol Pen Barras, Ysgol Pendref, Ysgol Brynhyfryd, Ysgol Dewi Sant ac Ysgol Borthyn gyda myfyrwyr hefyd o Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor – I chwarae ochr yn ochr gyda cymheiriad proffesiynol o Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.

 

Yn ystod y gweithdy, cafodd cyfranogwyr gyfle i ymarfer a pherfformio trefniadau a grëwyd yn arbennig o ddarnau enwog o gerddoriaeth glasurol: Suite Y Firebird – Y Finale gan Igor Stravinsky, a Noson ar y Mynydd Llwm gan Modest Mussorgsky.

 

Mae'r prosiect hwn yn gyfran yn unig o brosiect blwyddyn o hyd gan y BBC, sef Music Ten Pieces y BBC, gyda'r nod o ysbrydoli cenhedlaeth o blant i fod yn greadigol gyda cherddoriaeth glasurol.

 

Yn gynharach y mis hwn gwyliodd mwy na 100,000 o ddisgyblion ysgolion cynradd o bob rhan o'r DU Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn perfformio mewn sioeau ffilmiau sinema, yn dangos ffilm arbennig cynhyrchwyd fel rhan o'r prosiect – a perfformwyd 2 ddarn o’r gweithdy ymhlith y darnau cerddorol hynny yn y ffilm.

Giant orchestra squeezes into Prichard-Jones Hall at Bangor University

http://www.dailypost.co.uk/whats-on/music-nightlife-news/giant-orchestra-squeezes-prichard-jones-hall-8031228

 

A giant orchestra comprising of more than 150 musicians squeezed into Prichard-Jones Hall at Bangor University as part of a large-scale workshop led by the musicians from BBC National Orchestra of Wales.

 

The side-by-side workshop on Friday morning, 31 October 2014, was attended by more than 80 young pupils from Gwansanaeth Ysgolion William Mathias, including Denbighshire pupils from Ysgol Llanfair DC, Ysgol Glan Clwyd, Prestatyn High School, Ysgol Pen Barras, Ysgol Pendref, Ysgol Brynhyfryd, Ysgol Borthyn and Ysgol Dewi Sant, plus students from Bangor University School of Music – playing side-by-side with their professional counterparts from BBC National Orchestra of Wales.

 

During the workshop, the participants were given the opportunity to rehearse and perform specially created arrangements of famous pieces of classical music: The Firebird Suite – Finale by Igor Stravinsky and A Night on the Bare Mountain by Modest Mussorgsky.

 

This project is just part of a year-long BBC project, BBC Music’s Ten Pieces, aiming to inspire a generation of children to get creative with classical music.

 

Earlier this month more than 100,000 primary school pupils from across the UK watched BBC National Orchestra of Wales perform in cinema screenings, in a specially produced film as part of the project – and the two pieces performed in the workshop were amongst those pieces played on the film.

bottom of page