top of page

Archif Iechyd a Lles

Health & Well-being Archive

Heriau Plant Creadigol Sir Ddinbych | Denbighshire Creative Kids Challenges

DEWCH I GOGINIO! | COME AND COOK!

Syniadau am ryseitiau yn ystod y cyfnod cloi | Recipe ideas for during lockdown

Rydym yn rhannu ryseitiau a fideos syml a maethlon y gallwch eu gwneud adref gyda’ch teulu.

 

Mae rhai o’r ryseitiau wedi eu cymryd o’r prosiect ‘Dewch i Goginio’ sy’n cael ei ddarparu mewn 9 o’n hysgolion gan staff ysgol a chogyddion ysgol, yn ogystal â lleoliadau cymunedol. (Mae Dewch i Goginio yn brosiect lleol a ddarperir gan Ddietegwyr Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr).

 

Ydych chi’n colli eich Prydau Ysgol Sir Ddinbych? Bydd rhai o’n cogyddion ysgol hefyd yn gwneud fideos o’u ryseitiau i’w rhannu gyda chi a byddant yn cael eu hychwanegu at y dudalen hon! Yummy!

 

Os nad oes gennych chi bob un o’r cynhwysion allweddol, gwneir awgrymiadau mewn rhai o’r fideos. Gallwch ychwanegu neu dynnu cynhwysion yn ôl gofynion blas, alergeddau a diet.

 

Dewch i Goginio!

Rysáit Rhif 1: Cawl Llysiau Llawn Egni

 

  • Fideo rysáit

  • Cynhwysion y rysáit/offer AC dull

PDF - 2 ynghlwm

  • Ar gyfer faint o bobl?

4-6 oedolyn neu 12 plentyn

  • A oes modd ei rewi?

OES

Mae’r rysáit syml, blasus a maethlon hwn yn defnyddio sawl cynhwysyn, a gallwch chi ychwanegu eich cynhwysion chi, neu gyfnewid cynhwysion drwy ddefnyddio rhai ffres, wedi rhewi neu o dun.

We will share simple and nutritious recipes and videos that you can make at home with your family.

 

Some of the recipes are taken from the ‘Come and Cook’ project which is delivered in 9 of our schools by school staff and school cooks, as well as community venues. (Come and Cook is a local project delivered by Public Health Dietitians at Betsi Cadwaladr University Health Board).

Are you missing your Denbighshire School Meals? Some of our school cooks will also be making videos of their recipes to share with you and they will be added to this page! Yummy!

 

If you don't have all of the key ingredients, suggestions are made in some of the videos. You can add or remove ingredients according to taste, allergies and dietary requirements.

 

Come and Cook!

Recipe Number 1: Hearty Vegetable Soup

 

  • Recipe video

  • Recipe ingredients/equipment AND method

PDF- 2 attached

  • For how many people?

4-6 adults or 12 children

  • Can it be frozen?

YES

 

This simple, tasty and nutritious recipe uses several ingredients, and you can add your own ingredients, or swap ingredients using fresh, frozen or tinned ones.

'Bwydlen Fawr Sir Ddinbych 2018

‘Bwyta’n Dda a la David’...

'Great Denbighshire Menu 2018

‘Fine Dining a la David’…

Mae cystadleuaeth Bwydlen Fawr Sir Ddinbych wedi'i gynllunio ar gyfer disgyblion Ysgol Gynradd ac Uwchradd, rhwng 7 a 14 oed, i ysbrydoli plant a phobl ifanc i ddilyn eu cariad am fwyd a choginio, gan gynnig cyfle iddynt ymestyn eu dysgu y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth a rhoi iddynt llwyfan i gynrychioli eu hysgol ar lefel sirol, tra'n hyrwyddo ac  arddangos pa mor glyfar ydynt wrth goginio.

Gan ddychwelyd am y bedwaredd flwyddyn lwyddiannus, thema cystadleuaeth eleni oedd 'Bwyta’n Dda a la David', i anrhydeddu  a dathlu  pen-blwydd 10 mlynedd o gyhoeddi llyfrau un o’r awduron plant mwyaf poblogaidd David Williams a’i Fyd Unigryw.

 

Trwy gydol tymhorau'r Gwanwyn a'r Haf 2018, mae cogyddion ifanc mewn ysgolion ar draws Sir Ddinbych wedi ymwisgo efo’u ffedogau, wedi archwilio a datblygu sgiliau pwrpasol ac ymarferol a phrofi eu hyfedredd coginio, eu creadigrwydd a'u sgiliau, mewn ymgais personol i gyrraedd 'Y Banquet Fawr' (sef y Prif Rownd Terfynol).

 

Ar 2il a 3ydd Gorffennaf 2018, roedd y ‘menig popty’ i ffwrdd yn Ysgol Uwchradd Dinbych, pan roddwyd sialens neu her annisgwyl i gogyddion ifanc o bob cwr o'r sir – sef  'Teaser Technegol' – oedd yn brawf o’u gwybodaeth technegol a'u profiad. Profwyd nad tynnu coes oedd hwn  jooedd 'melyn' ond 'wyg-citond rhywbeth cynhyrfus tu hwnt ! Dros dau ddiwrnod, treuliodd cogyddion ifanc eu hamser yn brwydro gyda'i gilydd ac yn codi i'r her.

 

Roedd y panel beirniadu'n cynnwys: barnwr  cogyddio gwadd, Graham Tinsley MBE; Steve West, Rheolwr Gyfarwyddwr, Y Pudding Compartment; Ian Kemp a Hayley Jones, Rheolwyr Gwasanaethau Arlwyo Sir Ddinbych; Teleri Owen, Ysgol Uwchradd Dinbych, yn ogystal â Mrs Trafe  o lyfr David Walliams 'Billionaire Boy - y math o wraig cinio sy'n rhoi hunllef i bobl! .

 

Cymerodd Ysgol Bro Famau y wobr yn y categori oedran 7-11, gyda ‘Starter’ :'Showsy-Wosey' gyda ‘Teisen Wyneb i Waered David', tra ‘roedd Ysgol Uwchradd Dinbych yn fuddugol yn y gystadleuaeth 11-14, gyda Phrif Gwrs 'Dŵr at Ddannedd’  Chokky-Wokky Ravishing Roulade David ', er mwyn plesio blas David Walliam a rhai o'i hoff gymeriadau o’i lyfrau.

 

Gwelodd y rownd derfynol safon uchel iawn o gystadleuaeth. Dywedodd y barnwr gwadd, Steve West, Rheolwr Gyfarwyddwr The Pudding Compartment, Y Fflint "Roedd safon y coginio yn wych. Dylai pawb yn y rownd derfynol fod yn falch ohonynt eu hunain. Mae'n rhoi ysbrydoliaeth i mi weld y bobl ifanc yn cynhyrchu canlyniadau mor ysblennydd ". Ychwanegodd, "Mae gan y cystadleuwyr yn rownd derfynol ddyfodol disglair o'u blaenau."

 

Noddwyd Bwydlen Fawr Sir Ddinbych 2018 gan The Pudding Compartment, Y Fflint. Lluniwyd yr holl sialensau i herio’r cystadleuwyr gan Mrs Teleri Owen, Ysgol Uwchradd Dinbych. Beirniadodd y cogydd enwog Graham Tinsley MBE yr her 11-14 cyn arddangos ei sgiliau i gogyddion Ysgol Uwchradd ifanc a rhywfaint o’r hwyl sydd i goginio yn ystod y prynhawn mewn dosbarth feistr coginio.

 

Mae Gwasanaethau Addysg a Gwasanaethau Plant Sir Ddinbych 'wrth eu bodd fod cymaint o blant a phobl ifanc wedi cymryd rhan yng nghystadleuaeth Bwydlen Fawr Sir Ddinbych 2018 ac maent wrthi eisoes yn paratoi rhywbeth ‘blasus’ ac arbennig ar gyfer 2019!

The Great Denbighshire Menu competition is designed for Primary and Secondary School pupils, aged between 7 and 14, inspiring children and young people to pursue their passion for food and cookery, offering them the opportunity to extend their learning beyond the classroom and providing them with a platform to represent their school at county level, while advancing and showcasing their culinary cleverness. 

 

Returning for a fourth successful year, the theme for this year’s competition was ‘Fine Dining a la David’, in honour of the 10 year anniversary of ‘The World of David Walliams’, No 1 bestselling children’s author. 

 

 

Throughout the Spring and Summer terms 2018, young chefs in schools across Denbighshire have donned their aprons, explored and developed purposeful and practical skills and proved their cooking prowess, creativity and skill, in a bid to reach the ‘The Big Banquet’ (grand final).

 

 

On 2nd & 3rd July 2018, the oven gloves were off at Denbigh High School, when young chefs from across the county were set a final, unseen, challenge - a ‘Technical Teaser’ – testing their technical knowledge and experience.  It proved to be no ‘yolk’ but very ‘egg-citing’.  Over two days, young chefs spent their time mixing it with each other and rising to the challenge. 

 

 

The judging panel comprised: chef guest judge, Graham Tinsley MBE, Steve West, Managing Director, The Pudding Compartment, Ian Kemp and Hayley Jones, Denbighshire Catering Services’ Managers, Teleri Owen, Denbigh High School, as well as Mrs Trafe from David Walliams’ Billionaire Boy - the kind of lunch lady that nightmares are made of!  .

 

Ysgol Bro Famau took the honours in the 7-11 age category, with a ‘Showsy-Wosey’ Starter and ‘David’s Bottom-up Dessert’, whilst Denbigh High School was victorious in the 11-14 competition, with a ‘Mouth-Watering’ Main and ‘David’s Chokky-Wokky Ravishing Roulade’, to tickle David Walliams’ taste buds and some of his favourite book characters. 

 

The Finals saw a very high standard of competition.  Guest judge Steve West, Managing Director of The Pudding Compartment, Flint, said “The standard of the cooking was phenomenal.  All of the finalists should be proud of themselves.  It gives me inspiration to see the youngsters produce such spectacular results”.  He added, “The finalists have a bright future ahead of them.”

 

The Great Denbighshire Menu 2018 was sponsored by The Pudding Compartment, Flint.  All challenges were devised by Mrs Teleri Owen, Denbigh High School.  Celebrity chef Graham Tinsley MBE judged the 11-14 challenge and thrilled the young Secondary School chefs with some culinary fun in the afternoon with a cookery masterclass. 

 

 

Denbighshire Education and Children’s Services’ is delighted that so many children and young people took part in this year’s Great Denbighshire Menu 2018 competition and is already ‘cooking’ up something special for 2019! 

Ysgolion Cynradd | Primary Schools

Oedran | Age: 7-11

Bwydlen Fawr Sir Ddinbych 2018

Great Denbighshire Menu 2018

Cofrestrwch ddiddordeb eich ysgol i gymryd rhan erbyn Dydd Gwener 23 Mawrth 2018!

Register your school’s interest to take part by Friday 23 March 2018!

Ysgolion Uwchradd | Secondary Schools

Oedran | Age: 11-14

Archif Newyddion Iechyd a Lles Ysgolion Sir Ddinbych

Denbighshire Schools Health & Well-being News Archive

CYNRADD

PRIMARY

UWCHRADD

SECONDARY

'Creu Hurtrwydd Rhyfeddol'...

'Making Marvellous Madness'

GWYLIWCH | WATCH

 

Tom Daley: ‘Bu bwlis ysgol yn gwneud deifio’n faich’

Tom Daley: ‘School bullies made diving a burden’

Mae deifiwr Olympaidd yn agor ei brofiadau ei hun o fwlio mewn fideo ar gyfer ymgyrch gwrth-fwlio i ysgolion #Back2School

Olympic diver opens up about his own experiences of bullying in a video for #Back2School anti-bullying campaign

https://www.tes.com/news/school-news/breaking-news/watch-olympian-tom-daley-bullies-school-made-diving-a-burden

Cystadleuaeth Bwydlen Fawr Sir Ddinbych 2019

Great Denbighshire Menu 2019 Competition

Cystadleuaeth Dylunio Bandana!

CYFLE AM DDIM

I GYMRYD RHAN MEWN

CYSTADLEUAETH CELF 2017

Dyddiad Cau: 22 Mai 2017

Design-a-Bandana competition!

EXCITING FREE OPPORTUNITY TO PARTICIPATE IN AN ART COMPETITION 2017

Closing Date: 22 May 2017

'Mae Cystadleuaeth i ysgolion yng Nghymru - ‘Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth’ yn awr ar agor ar gyfer cofrestru!'

‘Show Racism the Red Card’ school competition in Wales is now open for registration!

Dyddiad Cau | Closing Date: 10/03/2017

a Chanllawiau

and Guidlines

Bwydlen Fawr Sir Ddinbych 2016 | Great Denbighshire Menu 2016

Myfyrwyr ysgolion uwchradd yn cystadlu yn Rowndiau Terfynol Bwydlen Fawr Sir Ddinbych 2016

Cystadleuaeth coginio "Dahlicious" yn herio myfyrwyr coginio i baratoi prydau iach a blasus

 Secondary school students compete in the Great Denbighshire Menu 2016 Finals

"Dahlicious" cooking competition challenges student chefs to prepare healthy and delcious meals     

Ysgolion Cynradd Sir Ddinbych yn troi’r gwres i fyny er mwyn cael cymryd rhan yn yr Rownd Derfynol eleni

Denbighshire Primary Schools turn up the heat to qualify for this year’s Grand Final

"Dahlicious" - Pecyn i Ysgolion Cynradd

"Dahlicious" - Primary Schools' Pack

Mae’r Hyfforddwraig Annie yn fodel rôl benywaidd prin mewn byd a ddominyddir gan ddynion – sef y byd pêl-droed.  Mae hi'n hyfforddwaig Fwslimaidd gyda Chlwb Pêl-droed Dinas Caerlŷr, a'r wraig De Asiaidd cyntaf erioed i gyrraedd lefel dau tystysgrif hyfforddi gan Gymdeithas Bêl-droed Lloegr.  Mae ‘Coach Annie’ fel y’i gelwir, wedi ennill y Categori Chwaraeon yng Ngwobrwyon Cyflawniad Merched Asiaidd 2015 am ei gwaith hyfforddiant uchelgeisiol gyda phêl-droedwyr ac am annog pobl ifanc ddifreintiedig i mewn i'r gamp.  Hi yw Cadeirydd Cymdeithas Hyfforddwyr Asiaidd a Du (Baca) ac yn Lysgennad ar gyfer mudiad ‘Sporting Equals’ a chwmni Slenky.

 

Mae ‘Coach Annie’ wedi ymddangos ar deledu’r BBC ac ar Radio 4 oherwydd ei gwaith arloesol ac unigryw mewn pêl-droed ac mae hi wedi  ennill enw da i’w hunan yn genedlaethol.  Yn ddiweddar enillodd hi wobr fel un o Sêr y dyfodol yng nghategori Chwaraeon cystadleuaeth cenedlaethol drwy’r DU cyfan i ddinasyddion ifanc blaenllaw.

 

Bu pêl-droed yn rhan enfawr o’i bywyd ers iddi fod yn ferch ifanc ac mae’n dal i fod.  "Dwi ddim yn siŵr pam, ond cyn gynted ag y bêl yn cyffwrdd fy nhroed neu fy enaid, mae rhywbeth hudol yn digwydd ac mae fy nghalon dod yn fyw".

 

Mae ymweliad ‘Coach Annie’ i Sir Ddinbych i’w ystyried yn ffordd wych o annog, ymgysylltu a grymuso genethod drwy gyfrwng chwaraeon.  "Dydw i ddim yn gweld fy hun fel model rôl oherwydd mae tipyn o ffordd i mi’n bersonol fynd cyn cyflawni fy ngobeithion fy hun.  Er hynny, os gallaf ysbrydoli genethod a menywod ifanc eraill drwy dim ond fy esiampl fi fy hun yna mae hynny'n anrhydedd cael i wneud hynny felly".

 

Yn ystod ei hymweliad a’r Sir bydd ‘Coach Annie’yn gweithio gyda merched o nifer o ysgolion, drwy eu hyfforddi mewn sgiliau pêl-droed, ond bydd llawer mwy na hynny yn cael ei gyflawni – bydd y genethod yn magu mwy o hunan-hyder a meddwl am anelu at a chyflawni uchelgeision eraill, nid yn unig mewn addysg ond yn eu bywydau bob dydd.  Hefyd, mae deuddeg o enethod lwcus wedi cael eu dewis i dreulio diwrnod cyffrous a gwerth chweil gyda’Coach Annie’ yn Stadiwm Chwaraeon Corbett, Belle Vue, sef maes enwog Clwb Pêl-droed Rhyl, gyda’r sesiwn yn arwain at gymhwyster pêl-droed.

 

Arwyddair ‘Coach Annie’ yw "Mae unrhyw beth ‘rydych am ei ddysgu am fywyd, gallwch wneud hynny drwy pêl-droed".   Dylai Annie wybod hynny’n fwy na neb oherwydd iddi hithau ddod o ddechreuad mwyaf annhebygolmewn bywyd gyda phêl-droed yn newid ei bywyd a’i galluogi i wibio i lawr yr asgell megis i Glwb Pêl-droed yr Uwch Gynghrair fel hyfforddwraig.  Drwy ymgymryd â'i Thrwydded Hyfforddi UEFA B, hi yw’r fenyw Fwslimaidd De Asiaidd cyntaf i gyflawni’r cymhwyster hyfforddiant fawreddog hwn.

Mae’r Hyfforddwraig Annie yn fodel rôl benywaidd prin mewn byd a ddominyddir gan ddynion – sef y byd pêl-droed.  Mae hi'n hyfforddwaig Fwslimaidd gyda Chlwb Pêl-droed Dinas Caerlŷr, a'r wraig De Asiaidd cyntaf erioed i gyrraedd lefel dau tystysgrif hyfforddi gan Gymdeithas Bêl-droed Lloegr.  Mae ‘Coach Annie’ fel y’i gelwir, wedi ennill y Categori Chwaraeon yng Ngwobrwyon Cyflawniad Merched Asiaidd 2015 am ei gwaith hyfforddiant uchelgeisiol gyda phêl-droedwyr ac am annog pobl ifanc ddifreintiedig i mewn i'r gamp.  Hi yw Cadeirydd Cymdeithas Hyfforddwyr Asiaidd a Du (Baca) ac yn Lysgennad ar gyfer mudiad ‘Sporting Equals’ a chwmni Slenky.

 

Mae ‘Coach Annie’ wedi ymddangos ar deledu’r BBC ac ar Radio 4 oherwydd ei gwaith arloesol ac unigryw mewn pêl-droed ac mae hi wedi  ennill enw da i’w hunan yn genedlaethol.  Yn ddiweddar enillodd hi wobr fel un o Sêr y dyfodol yng nghategori Chwaraeon cystadleuaeth cenedlaethol drwy’r DU cyfan i ddinasyddion ifanc blaenllaw.

 

Bu pêl-droed yn rhan enfawr o’i bywyd ers iddi fod yn ferch ifanc ac mae’n dal i fod.  "Dwi ddim yn siŵr pam, ond cyn gynted ag y bêl yn cyffwrdd fy nhroed neu fy enaid, mae rhywbeth hudol yn digwydd ac mae fy nghalon dod yn fyw".

 

Mae ymweliad ‘Coach Annie’ i Sir Ddinbych i’w ystyried yn ffordd wych o annog, ymgysylltu a grymuso genethod drwy gyfrwng chwaraeon.  "Dydw i ddim yn gweld fy hun fel model rôl oherwydd mae tipyn o ffordd i mi’n bersonol fynd cyn cyflawni fy ngobeithion fy hun.  Er hynny, os gallaf ysbrydoli genethod a menywod ifanc eraill drwy dim ond fy esiampl fi fy hun yna mae hynny'n anrhydedd cael i wneud hynny felly".

 

Yn ystod ei hymweliad a’r Sir bydd ‘Coach Annie’yn gweithio gyda merched o nifer o ysgolion, drwy eu hyfforddi mewn sgiliau pêl-droed, ond bydd llawer mwy na hynny yn cael ei gyflawni – bydd y genethod yn magu mwy o hunan-hyder a meddwl am anelu at a chyflawni uchelgeision eraill, nid yn unig mewn addysg ond yn eu bywydau bob dydd.  Hefyd, mae deuddeg o enethod lwcus wedi cael eu dewis i dreulio diwrnod cyffrous a gwerth chweil gyda’Coach Annie’ yn Stadiwm Chwaraeon Corbett, Belle Vue, sef maes enwog Clwb Pêl-droed Rhyl, gyda’r sesiwn yn arwain at gymhwyster pêl-droed.

 

Arwyddair ‘Coach Annie’ yw "Mae unrhyw beth ‘rydych am ei ddysgu am fywyd, gallwch wneud hynny drwy pêl-droed".   Dylai Annie wybod hynny’n fwy na neb oherwydd iddi hithau ddod o ddechreuad mwyaf annhebygolmewn bywyd gyda phêl-droed yn newid ei bywyd a’i galluogi i wibio i lawr yr asgell megis i Glwb Pêl-droed yr Uwch Gynghrair fel hyfforddwraig.  Drwy ymgymryd â'i Thrwydded Hyfforddi UEFA B, hi yw’r fenyw Fwslimaidd De Asiaidd cyntaf i gyflawni’r cymhwyster hyfforddiant fawreddog hwn.

Denbighshire Education Services' Curriculum Enrichment Programme is an exciting initiative which provides children and young people with the highest quality creative learning experiences and opportunities.  Engaging, enthusing and empowering children and young people via relevant creative learning activities, workshops, masterclasses, events and mentoring initiatives, helps to enhance and improve their well-being, attendance, behaviour and levels of attainment. 

 

One of the "stand-out" highlights this Autumn term 2015 is an invitation to Coach Annie Zaidi, an Under 11s coach at Leicester City Football Club Centre of Excellence, LCFC Community Trust, to Denbighshire (6 & 7 October 2015), to coach and inspire KS2 and KS3 girls across the county through football. 

Mae Rhaglen Cyfoethogi'r Cwricwlwm, Gwasanaethau Addysg Sir Ddinbych, 'yn fenter gyffrous sy'n rhoi profiadau a chyfleoedd dysgu creadigol o’r ansawdd uchaf i blant.  Mae’n ymgysylltu, ennyn brwdfrydedd a grymuso plant a phobl ifanc trwy weithgareddau dysgu perthnasol a chreadigol, gweithdai, dosbarthiadau meistr, digwyddiadau a Mentrau mentora, er mwyn helpu i ehangu a gwella eu lles, presenoldeb yn yr ysgol, eu ymddygiad a’u lefelau o gyrhaeddiad.

 

Un o'r digwyddiadau sy’n "sefyll-allan" tymor Hydref 2015 yw gwahoddiad i’r Hyfforddwraig pêl droed, Annie Zaidi, sy’n dysgu plant dan 11 oed yng Nghanolfan Ragoriaeth Clwb Pêl Droed Leicester City, fel rhan o Ymddiriedolaeth Gymunedol LCFC, i ddod i Sir Ddinbych (6 & 7 Hydref, 2015), i hyfforddi genethod CA2 a CA3 a’u hysbrydoli drwy gyfrwng pêl-droed.

‘The Beautiful Game' & engagement with Annie Zaidi, Football Coach with Leicester City Football Club Centre of Excellence U11s – a truly inspirational young woman in sport

'Y Gem Hardd’  a chyfle i weithio gyda Annie Zaidi, Hyfforddwr Pêl-droed Gyda Ganolfan Rhagoriaeth Clwb Pêl-droed Leicester City ar gyfer plant o dan 11oed - menyw ifanc wirioneddol ysbrydoledig ar y meysydd chwaraeon

‘BEND IT LIKE COACH ANNIE’

'GWYRO’R BÊL FEL COACH ANNIE’

DATGANIAD I'R WASG

PRESS RELEASE

Mae Ysgol Melyd wedi bod yn llwyddiannus wrth gyflawni'r Wobr Ansawdd Genedlaethol ar gyfer Ysgolion Iach.  Mae hon yn wobr fawreddog iawn, lle mae ysgolion yn dangos eu bod wedi ymrwymo'n gadarn i ddull sy'n datblygu'r ysgol gyfan fel amgylchedd hyrwyddo iechyd. 

 

Mae'r ysgol wedi gweithio'n ddiflino ar saith maes penodol o iechyd sy'n effeithio ar blant a phobl ifanc: bwyd a ffitrwydd; yr amgylchedd; hylendid; iechyd meddwl ac iechyd a lles emosiynol; datblygiad personol a pherthnasau; diogelwch a defnyddio sylweddau a chamddefnyddio sylweddau. 

 

Roedd y ddau aseswr yn hoff iawn o ddull yr ysgolion at iechyd a lles a dywedasant fod 'Ysgol Melyd wedi cynnwys y cysyniad o fod yn ysgol iach lle mae bob staff a disgybl yn cael eu gwerthfawrogi ac yn teimlo'n ddiogel.  Mae'r ysgol yn darparu amgylchedd cyffrous iawn ac iach ar gyfer dysgu ac addysgu.'

 

Dydd Mawrth 6 Hydref  cafodd yr ysgol ei gwobr mewn digwyddiad yn yr ysgol.  Cyflwynwyd y wobr gan Annie Zaidi ysbrydoledig, hyfforddwr pêl-droed gyda Chanolfan  Rhagoriaeth U11s Clwb Pêl-droed Dinas Caerlŷr.  Yn ystod ei hymweliad, fe roddodd brawf ar allu rhai o ferched Ysgol Melyd, gan eu hyfforddi mewn sgiliau pêl-droed ac addysgu hunan hyder iddynt i feddwl am gyflawni eu hamcanion, nid mewn addysg yn unig ond yn eu bywydau bob dydd. 

 

Fe fynychodd Andrew Jones, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ddathliad yr ysgol hefyd a dywedodd “Mae hon yn gamp wych, a dylai bod y staff, y disgyblion a'r rhieni yn Ysgol Melyd  yn falch iawn bod eu gwaith caled wedi cael ei gydnabod gyda Gwobr Ansawdd Cenedlaethol.  Mae'r ysgol wedi dangos bod iechyd a lles yn rhan bwysig o'r profiad dysgu cyffredinol ac roeddwn i'n falch o frwdfrydedd a diddordeb y plant i ddysgu am sut i fyw bywyd iach”.

Ysgol Melyd have been successful in achieving the National Quality Award for Healthy Schools.  This is a very prestigious award, where schools demonstrate that they are firmly committed to an approach which develops the whole school as a health promoting setting. 

 

The school has worked tirelessly on seven specific areas of health that affect children and young people: food and fitness; the environment; hygiene; mental and emotional health and well-being; personal development and relationships; safety and substance use and misuse.

 

The two assessors were very impressed with the schools approach to health and well-being and said that ‘Ysgol Melyd has embraced the concept of being a healthy school where all staff and pupils are valued and feel safe.  The school provides a very exciting and healthy environment for learning and teaching.’

 

On Tuesday October 6th the school were presented with their award at an event in school.  The award was presented by inspirational Annie Zaidi, a football coach with Leicester City Football Club Centre of Excellence U11s.  During her visit, she also put some of Ysgol Melyd’s female pupils through their paces, coaching them in soccer skills and teaching them self-confidence to think about achieving other goals, not only in education but in their everyday lives.  

 

Andrew Jones, Executive Director of Public Health for Betsi Cadwaldr University Health Board also attended the school celebration and said “This is a fantastic achievement and the staff, pupils and parents at Ysgol Melyd should be very proud that their hard work has been recognised with a National Quality Award.  The school has demonstrated that health and wellbeing is an important part of the overall learning experience and I was impressed with the children’s enthusiasm and interest in learning about how to lead a healthy life”.

Llwyddiant cenedlaethol i Ysgol Melyd

National Success for Ysgol Melyd

Deall Awtistiaeth Lefel 2 - Ariannu'n Llawn 

Understanding Autism Level 2 - Fully Funded

Byw efo plant yn eu harddegau

Living with Teenagers

Bwydlen Fawr Sir Ddinbych 2015 - Daganiad i'r Wasg

The Great Denbighshire Menu 2015 - Press Release

Penodwyd Natasha Devon yn bencampwraig iechyd meddwl cyntaf ar gyfer ysgolion

Natasha Devon appointed first mental health champion for schools

John Dickens Aug 30, 2015

The first mental health champion for schools has been appointed today amid a government drive to destigmatise mental health in classrooms.

 

Natasha Devon MBE was chosen for the role after launching two organisations giving young people, parents and teachers tips on dealing with mental health and body image concerns.

 

The announcements comes as part of a wider government commitment to invest £1.25bn in young people’s mental health – which will impact how services work with schools.

 

Education and Childcare Minister Sam Gyimah said: “Ensuring young people have access to good mental health support is vital. That is why we are promoting greater use of counselling in schools, improving teaching about mental health, and supporting joint working between mental health services and schools.”

It’s vital we can improve the support available for children and teens

Schools Week highlighted serious weaknesses with mental health care in schools as part of a series of investigations into vulnerable learners in February.

 

We spoke to senior politicians in the health field who revealed there is no accurate, up-to-date figures on the prevalence of mental health disorders of those aged under-18.

 

Liberal Democrat MP Norman Lamb, former minister for care and support, said: “We need quite a fundamental improvement in the way we intervene and identify these problems.

 

“I suspect there are many teachers who feel, because they don’t have the training, quite nervous about mental health.”

 

But in March the Department for Education published a blueprint for school counselling services which provides schools with evidence-based advice.

 

Education secretary Nicky Morgan said it would “give teachers the confidence to teach mental wellbeing sensitively and effectively”.

 

It has also pumped £1.5m into a joint pilot with NHS England to improve joint working between mental health services and schools.

 

Ms Devon, a TV pundit and write who has suffered from an eating disorder herself, said: “At present, three children per average classroom has a diagnosable mental health problem, with many more struggling with undiagnosed conditions such as anxiety.

 

“This has a tangible impact not only on their happiness, but also on their potential. It’s therefore vital that we can improve the support available for children and teens.”

Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth

Seremoni Wobrwyo Cystadleuaeth Genedlaethol Celfyddydau Creadigol!

 

6 Mai 2015

Cyhoeddwyd enillwyr y gystadleuaeth genedlaethol i ysgolion mewn digwyddiad mawreddog yng Ngwesty'r Marriot yng Nghaerdydd ddydd Mercher 6 Mai, 2015.

 

Roedd y gystadleuaeth yn cynnwys naw categori, gan gynnwys fideo/cyfryngau, barddoniaeth a dylunio crys-t. Cymerodd bron i 100 o ysgolion ran yn y gystadleuaeth a derbyniodd yr ymgyrch ddarnau arloesol a chreadigol – y gorau ers i'r gystadleuaeth ddechrau 8 mlynedd yn ôl. I ddathlu'r holl waith celf gwych a dderbyniwyd, gwahoddwyd yr enillwyr, eu ffrindiau a'u teulu i seremoni wobrwyo debyg i’r Oscars yn y brifddinas.

 

I gychwyn digwyddiadau'r diwrnod, mynychodd yr enillwyr a'u gwesteion dderbyniad diodydd arbennig, a oedd yn cynnwys perfformiwr syrcas a modelwr balwn.

 

Agorwyd y seremoni wobrwyo gan y Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates AC, a bu iddo ganmol y bobl ifanc am eu holl ymdrechion a'u talentau anhygoel. Siaradodd y Dirprwy Weinidog am yr ymgyrch a'r gwaith pwysig y mae'r elusen yn ymgymryd ag o mewn ysgolion ledled Cymru, ac anogodd pob Awdurdod Lleol nad yw'n ymwneud â'r elusen i gefnogi ei mentrau.

 

Wedyn bu i’r enillwyr a'u gwesteion gladdu pryd bwyd dau gwrs a mwynhau adloniant gwych gan Ash Randall sy’n gwneud campau pêl-droed rhyfeddol ac sydd wedi bod yn cefnogi’r elusen ers nifer o flynyddoedd.

 

Ac yn cyflwyno’r seremoni oedd Lisa Rogers, cyflwynwraig, ac Alex Winters, cyflwynydd Cbeebies. Mae'r ddau gyflwynydd yn cefnogi ac yn noddi’r elusen, ac maen nhw wedi cyflwyno’r seremoni wobrwyo ers 3 blynedd bellach. Mae rhestr lawn o’r enillwyr a'r rheiny yn yr ail safle ar gael isod.

 

Cafodd pob enillydd dlws, dystysgrif, bag o bethau da a gwobrau arbennig fel Kindles, tocynnau i wylio gêm bêl-droed rhyngwladol, cyfle i wylio sesiwn hyfforddiant tîm rygbi Cymru a thalebau Amazon.

Yn olaf, cyhoeddwyd enw’r enillydd cyffredinol, sef Oliwia Dulisz o Ysgol Uwchradd Gatholig ac Anglicanaidd Sant Joseff yn Wrecsam. Roedd y beirniaid yn teimlo fod darlun Malala Yousafzai Oliwia yn haeddu’r wobr gyffredinol gan ei fod yn arddangos talent artistig ddaru eu syfrdanu. Ymysg ei gwobrau anhygoel enillodd Oliwia iPad ar gyfer ei hysgol, a roddwyd gan NUT, a'r cyfle i arddangos ei gwaith yn Oriel Wrecsam am un wythnos. Bu i Ysgrifennydd Cyffredinol NUT, Christine Blower, a Phennaeth Dysgu Gydol Oes Cyngor Wrecsam, John Davies, roi’r tlws a’r wobr i Oliwia. Ac roedd pawb ar eu traed.

 

 

Ar ddiwedd y digwyddiad, cafodd yr enillwyr hefyd gyfle i gael tynnu eu llun gyda rhai o sêr chwaraeon a derbyn eu llofnod. Roedd y gwesteion arbennig yn cynnwys yr arwr rygbi rhyngwladol, Colin Charvis, chwaraewyr rygbi’r Scarlets a Dreigiau Casnewydd Gwent a chwaraewyr Academi Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd.

 

Mae ar yr ymgyrch eisiau llongyfarch pawb a gymerodd ran yn y gystadleuaeth a diolch i’r holl athrawon am annog eu disgyblion i greu darnau gwych o waith celf gyda negeseuon pwysig iawn.

 

Enillwyr:

Dylunio Crys T Blynyddoedd 1-4
Enillydd - Tahmina Uddin, Ysgol Gynradd y Santes Helen
Ail - Jemima Kendrick, Ysgol Gynradd Stryd Rhos

 

Dylunio Crys T Blynyddoedd 5 a 6
Enillydd - Anisha Wellington, Ysgol Gynradd Gnoll
Ail - Theo, Ysgol Bro Tawe

 

Dylunio Crys T Blynyddoedd 7-9
Enillydd - George Parry, Ysgol Maelor
Ail - Bradley Gregory-Lloyd, Ysgol Maesydderwen

 

Dylunio Crys T Blynyddoedd 10+
Enillydd - Travis O'Brien, Ysgol Gyfun Sandfields

Ail - Oliwia Dulisz, Ysgol Uwchradd Gatholig ac Anglicanaidd Sant Joseff

Dylunio Poster Addysg Gynradd
Enillydd - Niamh Phipps, Ysgol Gynradd Blaen -y- Maes
Ail – Kelyn, Ysgol Gymraeg Bro Ogwr

 

Dylunio Poster Addysg Uwchradd
Enillydd - Oliwia Dulisz, Ysgol Uwchradd Gatholig ac Anglicanaidd Sant Joseff
Ail - Harriet Haylock, Ysgol Uwchradd Crughywel

 

Barddoniaeth
Enillydd – David, Ysgol Uwchradd Crughywel
Ail - Iolo John, Rhydian Greenhall, Hanna Marshall, Elen Gruffydd ac Osian Francis, Ysgol Gymraeg Bro Ogwr

 

Cymraeg
Enillydd - Brychan Rhydderch, Ysgol Treganna
Ail - Hanna Haf , Ysgol y Strade

 

Fideo/ y Cyfryngau
Enillydd – Dosbarth Mr Roberts - Blwyddyn 5, Ysgol Gynradd Brynteg
Ail - Noa Ahir, Ysgol Treganna

 

Categori Arbennig: Malala Yousafzai
Enillydd - Oliwia Dulisz, Ysgol Uwchradd Gatholig ac Anglicanaidd Sant Joseff
Ail – Ysgol Gyfun Sandfields

 

Categori Arbennig: Newyddiadurwr Ifanc
Enillydd - Hannah Rachel, Ysgol a Reolir yn Wirfoddol Talacharn
Ail - Fatma Alghanay, Ysgol Gynradd Mount Stuart 

Show Racism the RED Card

National Creative Arts Competition Awards Ceremony!

 

6 May 2015

The national Schools' Competition winners and runners-up were announced at a prestigious event held at the Marriot Hotel in Cardiff on Wednesday 6th May 2015.

 

The competition included nine categories such as video/media, poetry and t-shirt design. Almost 100 schools took part in the competition and the campaign received the most innovative and creative entries since the competition began 8 years ago. To celebrate all the fantastic artwork received, the prize winners, their friends and family were treated to a special Oscar-style awards ceremony held in the capital city.  

 

To kick off the day's events, prize winners and their guests attended a glitzy drinks reception, which featured a circus performer and balloon modeller.

 

The award ceremony was opened by Deputy Minister for Culture, Sport and Tourism Ken Skates AM who praised the young people for all their efforts and amazing talents on display. The Deputy Minister spoke very highly of the campaign and the important work the charity carries out in schools across Wales, urging any Local Authority not involved with the charity to support its initiatives in the future.

 

Lunch was served and the prize winners and their guests tucked into a two course meal followed by some superb entertainment from Football Freestyler Ash Randall, who has been a long term supporter of the charity.

 

Television presenter Lisa Rogers and Cbeebies presenter Alex Winters took to the stage to present the awards to the young people. Both presenters are great supporters and patrons of the charity and have presented the awards ceremony for the past 3 years. A full list of the winners and runners-up are listed below.

 

All prize winners won a trophy, certificate, goody bag and some super prizes such as kindles, international football tickets, the opportunity to watch the Welsh Rugby Squad in training and Amazon vouchers.

 

Finally, with great anticipation, the overall Winner was announced, Oliwia Dulisz from St Joseph’s Catholic and Anglican High School in Wrexham.  The judges felt Oliwia’s Malala Yousafzai painting deserved to be crowned overall winner as it displayed such artistic talent and it “completely blew them away”.  Among many amazing prizes Oliwia won an iPad for her school which was donated by the NUT, and the opportunity to exhibit her painting at the Oriel Gallery in Wrexham for one week.  General Secretary of the NUT Christine Blower and Wrexham Council's Head of Lifelong Learning John Davies handed over Oliwia’s trophy and prize. Oliwia received a well-deserved standing ovation.

 

The prize winners had the opportunity to have their photo taken with some famous sports stars and acquire their autographs at the end of the event. Special guests included Welsh International rugby legend Colin Charvis, Scarlet’s and Newport Gwent Dragons rugby players and Cardiff City FC Academy players

 

The campaign would like to congratulate everyone who took part in the competition and all the teachers for encouraging their pupils to create wonderful pieces of artwork with such important messages.

 

Prize winners:

T-Shirt Design Years 1-4
Winner - Tahmina Uddin, St Helen's Primary School
Runner-Up - Jemima Kendrick, Rhos Street Primary School

 

T-Shirt Design Years 5&6
Winner - Anisha Wellington, Gnoll Primary School
Runner-Up - Theo, Ysgol Bro Tawe

 

T-Shirt Design Years 7-9
Winner - George Parry, The Maelor School
Runner-Up - Bradley Gregory-Lloyd, Ysgol Maesydderwen

 

T-Shirt Design Years 10+
Winner - Travis O'Brien, Sandfields Comprehensive School
Runner-Up - Oliwia Dulisz, St Joseph's Catholic and Anglican High School

 

Poster Design Primary Education
Winner - Niamh Phipps, Blaen -y-Maes Primary School
Runner-Up – Kelyn, Ysgol Gymraeg Bro Ogwr

 

Poster Design Secondary Education
Winner  - Oliwia Dulisz, St Joseph's Catholic and Anglican High School
Runner-Up - Harriet Haylock, Crickhowell High School

 

Poetry
Winner – David, Crickhowell High School
Runner-Up - Iolo John, Rhydian Greenhall, Hanna Marshall, Elen Gruffydd and Osian Francis, Ysgol Gymraeg Bro Ogwr

 

Welsh Language
Winner - Brychan Rhydderch, Ysgol Treganna
Runner-Up - Hanna Haf , Ysgol Y Strade

 

Video/Media

Winner - Mr Roberts' Class - Year 5, Brynteg Primary School
Runner-Up - Noa Ahir, Ysgol Treganna

 

Special Category: Malala Yousafzai
Winner - Oliwia Dulisz, St Joseph's Catholic and Anglican High School
Runner-Up - Sandfields Comprehensive School

  

Special Category: Young Journalist
Winner - Hannah Rachel, Laugharne Voluntary Controlled School
Runner-Up - Fatma Alghanay, Mount Stuart Primary School

Mae’r ymdrech I chwilio ar draws y Sir i ddod o hyd i blant sy'n rhagori mewn coginio wedi symud gam yn nes gyda 7 wedi eu dewis i gystadlu yn rownd derfynol  'Bwydlen Fawr Sir Ddinbych 2015' i Ysgolion Cynradd.

 

Dyma’r flwyddyn gyntaf mae Cyngor Sir Ddinbych wedi lansio menter i chwilio am gogyddion ifanc o ysgolion Cynradd, Uwchradd ac Arbennig sy'n arddangos dawn go iawn mewn coginio..

 

Wedi'i ysbrydoli gan gystadleuaeth y 'Great British Menu' ar BBC 2, mae Gwasanaethau Addysg Sir Ddinbych yn ystyried byddai plant yn cael manteision mawr o allu llunio a gweithredu syniadau mewn bwyd yn ôl thema benodol. Mewn cyd-destun Cymreig, mae'r cysylltiad â Phatagonia wedi cyflwyno ei hun ar ben-blwydd 150 oed yr ymfudo o Gymru i’r rhan anghysbell honno o Ariannin. Mae'r disgyblion wedi cael briff, rhestr o gynhwysion a'u gwahodd i goginio bwydlenni creadigol yn unol â hynny.

 

Bydd yr ysgolion cynradd ac  uwchradd sydd wedi cyrraedd y rownd ola’ yn cael y cyfle i arddangos eu sgiliau o flaen panel o feirniaid enwog ddydd Mawrth 9 Mehefin yn Ysgol Uwchradd Dinbych, tra bod y rownd derfynol i Ysgolion Arbennig yn cael ei gystadlu ddydd Mercher 10 Mehefin 2015 yn Ysgol Tir Morfa, Y Rhyl.

 

Bydd y cystadleuwyr ar brawf yn ymddangos o flaen o flaen y Prif Feirniad, Graham Tinsley MBE, Cogydd Ymgynghorol a Phennaeth Tîm Coginio Cenedlaethol Cymru.

 

Bydd enillwyr pob categori yn derbyn tlws a gynlluniwyd ac a roddwyd yn arbennig gan Ganolfan Gwaith Haearn Prydain, Croesoswallt ac yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn arddangosfa goginio gyda chogydd enwog ar lwyfan Gŵyl Fwyd Llangollen ym Hydref 2015.

 

Mae Gwasanaethau Addysg Sir Ddinbych yn hynod o falch i arddangos cogyddion ifanc a'u hannog i goginio. Mae cymryd rhan mewn cystadlaethau megis 'Bwydlen Fawr  Sir Ddinbych' yn rhoi hwb i hunan hyder a hunan-barch plant ac yn eu hannog i fod yn greadigol. Mae'n gofyn bod yn ymarferol gyda defnydd da o gysyniadau mewn mathemateg, cynllunio, meddwl, a rheoli amser. Mae hefyd yn rhoi cyfleoedd ar gyfer meistrolaeth o sgiliau newydd ac mae'n llawn hwyl.

 

Mae safon y coginio yn Rownd 1 a 2 wedi bod yn eithriadol o uchel ac yn sicr ‘roedd yn benderfyniad anodd i'r beirniaid ddewis yr enwau ar gyfer y rownd derfynol.

A county-wide search to find young chefs who excel in cooking has moved a step closer as 7 finalists have been chosen to compete in the ‘Great Denbighshire Menu 2015’ Primary Schools’ Competition Grand Final.

 

This is the first year that Denbighshire County Council has launched its search to find up-and-coming young chefs from Primary, Secondary and Special schools who demonstrate a real flair for cooking. 

 

Inspired by the BBC Two’s 'Great British Menu' competition, Denbighshire Education Services thought that children would derive great benefits from being able to devise and execute ideas in food according to a particular theme.  In a Welsh context, the connection with Patagonia presented itself on the 150th anniversary of the Welsh settlers arriving in that remote part of Argentina.  Pupils have been given a brief, a list of ingredients and invited to cook creative menus accordingly. 

 

Primary and Secondary school finalists will have the chance to showcase their skills before a renowned panel of judges on Tuesday 9 June at Denbigh High School, whilst Special School finalists will compete on Wednesday 10 June 2015 at Ysgol Tir Morfa, Rhyl.

 

 

Putting the contestants through their paces will be Head Judge, Graham Tinsley MBE, Consulting Chef and Head of the Welsh National Culinary Team.

 

The winners of each category will receive a trophy exclusively designed and donated by British Ironwork Centre, Oswestry and be invited to participate in a cooking demonstration with a celebrity chef on the stage of Llangollen Food Festival in October 2015.

 

Denbighshire Education Services is extremely proud to showcase young chefs and encourage them to cook.  Taking part in competitions like the ‘Great Denbighshire Menu’ boosts children’s self confidence and self-esteem and encourages creativity.  It requires hands-on use of maths concepts, planning, thinking, and time management.  It also provides opportunities for mastery of new skills and is lots of fun.

 

 

The standard of cooking in Round 1 and 2 has been extremely high and it was certainly a difficult decision for the judges to choose the finalists.

Cogyddion ifanc a ddewiswyd ar gyfer Rownd Olaf Bwydlen Fawr Sir Ddinbych 2015

Young chefs selected for Great Denbighshire Menu 2015 Final

Libby Galeandro & Rebekah Badeeb

Ysgol y Llys

Demi Ross & Kaci Ross

Ysgol Henllan

Sophie Hunt, Ysgol Bro Famau

Calub Dean, Ysgol Rhewl

Amy Jones, Ysgol Bro Famau

‘Food Glorious Food’…

 

Great Denbighshire Menu 2015

Secondary Schools’ Competition

Denbigh High School

Round 1- School Round

‘Food Glorious Food’…

Great Denbighshire Menu 2015

Secondary Schools’ Competition

Denbigh High School

Round 1- School Round

Dangosodd wyth disgybl o Ysgol Uwchradd Dinbych eu hangerdd, dawn, sgiliau a thalent coginio yn ystod rownd gyntaf 'Bwydlen Fawr Sir Ddinbych' a gynhaliwyd yn eu hysgol ddydd Gwener 13 Mawrth 2015.  Yn seiliedig ar thema 'Patagonia yn 2015', chwifiodd pob cystadleuydd y faner Gymreig gyda balchder drwy greu prydau bwyd gan gynnwys elfennau traddodiadol Cymreig i ddathlu 150 mlynedd ers i Gymry Cymraeg fynd allan i setlo ym Mhatagonia.

 

Yn y Rownd gyntaf, gofynwyd i'r cogyddion ifanc i greu prif gwrs tatws neu basta gydag o leiaf un o'r cynhwysion Cymreig traddodiadol i ddilyn :- cig oen lleol Cymreig, cig eidion o ffynonellau lleol Cymreig, cyw iâr organig o ffynonellau lleol, cennin a chaws Cymreig gyda cost y cyfan heb fod yn fwy na chyfanswm o £ 3.50 y person.

 

‘Roedd y prydau yn amrywio o ‘Hot Pot’ Cig Oen, Pastai Gwledaidd gyda chig oen , Cyw Iâr, Pasta Cig Moch a Chennin gyda Bara llysieuol, Pasta Cyw Iâr a Madarch, ‘Hot Pot’ Cig Oen Cymru, Bolognaise Cig Eidion & Phybyr wedi ei lenwi, Linguini Cyw Iâr a Bolognese Cig Eidion.

 

Buasai Gregg Wallace a John Torode wedi cael eu plesio gyda’r blasau bwyd a gynigiwyd!

 

‘Roedd safon uchel y coginio yn gwneud y gwaith o feirniadu yn anodd iawn.

 

Yr enillydd yn y pen draw oedd Ryan Williams, Blwyddyn 9 gyda’r ail wobr yn mynd i Tom Lewis, Blwyddyn 9.  Rhoddwyd y trydydd wobr ar y cyd i Leah Carter, Blwyddyn 10, Macy Parry, Blwyddyn 9 a Joe Fishwick, Blwyddyn 9.  Yn gydradd 4ydd oedd Phoebe Williams, Blwyddyn 9, Emily Carruthers, Blwyddyn 9 a Tara Young, Blwyddyn 10.

 

Llongyfarchiadau a phob lwc yn yr 2ail Rownd!

 

Os fyddant yn parhau gyda’u coginio fel hyn, efallai cawn weld 'Masterchef' yn dod i Ddinbych mewn ychydig o flynyddoedd '!

Eight pupils from Denbigh High School demonstrated their passion, flair and showcased their culinary skills and talent during the first round of the ‘Great Denbighshire Menu’, held at their school on Friday 13 March 2015. Based on the theme of ‘Patagonia 2015’, each competitor flew the Welsh flag with pride creating dishes using traditional Welsh ingredients to celebrate 150 years since the Welsh settled in Patagonia.

 

 

In Round 1, the young chefs were required to create a potato or pasta based main course with at least one of the following traditional Welsh ingredients:– locally sourced Welsh lamb, locally sourced Welsh beef, locally sourced organic chicken, leeks and Welsh cheeses and the entire ingredients were not to total more than £3.50 per person. 

 

The dishes ranged from Lamb Hot Pot, Cottage Pie, Chicken, Bacon and Leek Pasta with Herby Flat Bread, Chicken and Mushroom Pasta Bake, Welsh Lamb Hot Pot, Beef Bolognaise & Stuffed Peppers, Beef Bolognaise and Chicken Linguini.

 

Gregg Wallace and John Torode would have been impressed at the flavours!

 

The excellent standard of cooking made judging very difficult.

 

The eventual winner was Ryan Williams, Year 9 and runner up was Tom Lewis, Year 9.  Joint 3rd was awarded to Leah Carter, Year 10, Macy Parry, Year 9 and Joe Fishwick, Year 9.  Joint 4th was awarded to Phoebe Williams, Year 9, Emily Carruthers, Year 9 and Tara Young, Year 10. 

 

 

Congratulations and good luck in Round 2!

 

If they carry on with their cooking, we may see a ‘Masterchef’ from Denbigh in a few years’ time!

Bwydlen Fawr Sir Ddinbych 2015 - Ysgol Santes Ffraid

Great Denbighshire Menu 2015 - St. Brigid's School

bottom of page