
Beth sy'n digwydd yn Cyfoethogi'r Cwricwlwm
CHWEFROR 2023
What's happening in Curriculum Enrichment
FEBRUARY 2023
CORONI 2023 - Cystadlaethau Ysgolion Sir Ddinbych

CORONATION 2023 - Denbighshire Schools Competitions
Datgelu enillwyr Cystadleuaeth Arlunio Ysgolion Sir Ddinbych ‘Beth Sy’n Eich Gwneud Chi’n Hapus?'
Winners of Denbighshire Schools Art Competition ‘What Makes You Happy?’ revealed

Ym mis Rhagfyr 2022, lansiodd Cadeirydd Cyngor Sir Ddinbych, y Cynghorydd Arwel Roberts, ei gystadleuaeth arlunio ysgolion, mewn partneriaeth ag un o'i elusennau enwebedig, NSPCC Cymru/Wales.
Nod y Gystadleuaeth, o'r enw LLES - 'Beth Sy’n Eich Gwneud Chi’n Hapus?' oedd codi ymwybyddiaeth o wasanaeth Childline yr NSPCC sy'n achubiaeth hanfodol i bob plentyn a pherson ifanc i allu siarad am eu hiechyd meddwl. Gwahoddwyd plant dan 12 oed o fewn Sir Ddinbych i anfon eu gwaith arlunio o bethau sy'n eu gwneud yn hapus, e.e. taith i'r parc neu'r traeth, ymweld â theulu, treulio amser gyda ffrindiau, chwarae chwaraeon ac ati.
Caeodd y gystadleuaeth yn swyddogol ar 27 Ionawr 2023 ac roedd yn hynod o boblogaidd, gyda 566 o geisiadau syfrdanol yn cael eu derbyn.
Dywedodd y Cynghorydd Arwel Roberts, Cadeirydd y Cyngor:
"Mae gennym lawer o blant a phobl ifanc talentog yn ysgolion Sir Ddinbych ac roedd yr holl gynigion yn wirioneddol wych”.
"Mae bod yn greadigol yn ffordd bwerus i blant a phobl ifanc fynegi sut mae nhw'n teimlo”.
“Hoffwn ddiolch i bawb a aeth i mewn i'r gystadleuaeth am eu ceisiadau gan ei bod yn amlwg bod llawer o waith caled, ymdrech a chreadigrwydd wedi mynd i mewn i'r gwaith arlunio. Mae nhw wedi bod yn bleser i’w beirniadu".
Dywedodd Jessica Finnegan, Rheolwr Codi Arian a Phartneriaethau Cymunedol yn NSPCC Cymru:
"Mae ein gwasanaeth Childline yn rhoi cefnogaeth hanfodol i blant a phobl ifanc i allu siarad am eu hiechyd meddwl a sut mae nhw'n teimlo”.
"Hoffem ddiolch i Gadeirydd Cyngor Sir Ddinbych am ei gefnogaeth, ac am lansio'r gystadleuaeth feddylgar hon i godi ymwybyddiaeth o Childline”.
“Hyfryd oedd gweld cymaint o blant a phobl ifanc yn cyflwyno gwaith arlunio celf cwbl wych i fynegi'r hyn sy'n eu gwneud yn hapus."
In December 2022, the Chairman of Denbighshire County Council, Councillor Arwel Roberts, launched his schools art competition, in partnership with one of his nominated charities, NSPCC Cymru/Wales.
The Competition, entitled WELLNESS - ‘What Makes You Happy?’ aimed to raise awareness of the NSPCC’s Childline service which is a vital lifeline for every child and young person to be able to talk about their mental health. Denbighshire’s under 12-year olds were invited to send in their artwork of things that make them happy, e.g. a trip to the park or the beach, visiting family, spending time with friends, playing sport, etc.
The competition closed officially closed on 27th January 2023 and was extremely popular, with a staggering 566 entries received.
Councillor Arwel Roberts, Chairman of the Council said:
“We have lots of talented children and young people in Denbighshire schools and all of the entries were truly brilliant”.
“Being creative is a powerful way for children and young people to express how they are feeling”.
“I’d like to thank everyone who entered the competition for their entries as it is clear a lot of hard work, effort and creativity has gone into the artwork. They have been a joy to judge”.
Jessica Finnegan, Community Fundraising and Partnerships Manager at NSPCC Cymru/Wales, said:
“Our Childline service provides vital support for children and young people to be able to talk about their mental health and how they are feeling
“We would like to thank the chairman of Denbighshire County Council for his support, and for launching this thoughtful competition to raise awareness of Childline”.
“It was wonderful to see so many children and young people submitting some absolutely fantastic artwork to express what makes them happy.”
TYMOR YR HYDREF 2022
AUTUMN TERM 2022

CSDd ac NSPCC Cystadleuaeth Arlunio Ysgolion 2022
DCC & NSPCC Schools Art Competition 2022

Her Celfyddydau Creadigol
Creative Arts Challenge